Mae DVLA yn datgelu rhai o’r eitemau mwyaf rhyfedd sy’n cael eu darganfod mewn ceir heb eu trethu
Roedd beic cwad, set lawn o ddrymiau, helmedau joci a hanner soffa cornel ymysg yr eitemau rhyfedd a rhyfeddol ymhlith bron i 600 o setiau o eiddo personol a ddarganfuwyd mewn ceir heb eu trethu yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae DVLA wedi datgelu rhestr o rai o’r eitemau a ddarganfuwyd mewn ceir heb eu trethu a gafodd eu clampio a’u hatafaelu yn ystod y 12 mis diwethaf. Yn ogystal ag eitemau bob dydd, daeth rhai arteffactau anarferol i’r amlwg.
Mae’r rhestr yn cynnwys:
- 3 helmed joci
- Beic cwad oddi ar y ffordd
- Gitâr acwstig gydag ategolion, stand a chas cario
- Hanner soffa cornel
- Toiled ystafell ymolchi gyda sedd
- Ffyn pysgota gydag offer pysgota
- Cardiau masnachu ‘Beavis & Butthead’
- Set ddrymiau llawn gyda set seinchwyddwr Cort ‘Groove Engine GE15B’
- Nifer o dorso dynion pren
- Llyfr gwerthfawr iawn Louis Wain o gathod darluniadol o’r 1920au
- Set lawn o glybiau golff
Caiff unrhyw eiddo personol a geir mewn cerbydau sydd wedi’u hatafaelu eu rhestru a’u storio am gyfnod o amser rhag ofn eu bod yn cael eu hawlio, cyn eu bod ar gael i’w gwerthu. Dywedodd Pennaeth Gorfodaeth DVLA, Tim Burton:
Mae cael eich car wedi’i glampio yn ddrud ac yn anghyfleus- ac fel mae’r rhestr o eitemau hon yn ei ddangos, gallech golli mwy na’r car yn unig!
Mae DVLA yn gweithredu amrywiaeth o fesurau i wneud trethu cerbyd yn hawdd i’w dalu ac yn anodd ei osgoi. Er bod mwyafrif helaeth o fodurwyr yn gwneud y peth iawn ac yn trethu eu ceir yn gywir, mae’n iawn ein bod yn cymryd camau yn erbyn y rhai sy’n torri’r gyfraith ac yn methu â threthu eu car. Nid yw erioed wedi bod yn haws i drethu’ch car – dim ond ychydig o gliciau mae’n ei gymryd i’w wneud ar-lein a gallwch wneud hynny 24 awr y dydd. Gallwch hefyd rannu taliadau dros y flwyddyn trwy Ddebyd Uniongyrchol, felly nid oes unrhyw esgus o gwbl.
Mae’r gyfraith yn glir a hefyd y canlyniadau – trethwch ef neu collwch ef.
Gall modurwyr wirio pryd y mae angen talu treth ar gerbyd gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein DVLA – y cyfan sydd ei angen arnynt yw rhif cofrestru’r cerbyd.
Nodiadau i Olygyddion
Mae rhestr lawn o’r eitemau sydd wedi’u ‘bagio a’u tagio’ yn cynnwys yr eitemau a nodir ar y rhestr.
Gellir olrhain yr holl eitemau a nodir ar y rhestr yn ôl i safle penodol lle cafodd y cerbyd ei atafaelu. Efallai y bydd yr eitemau a nodir ar y rhestr wedi’u nodi ar y rhestr fel ‘eitemau cymysg’ neu ‘amrywiol’ ond gallwn gadarnhau bod y cyfan wedi’u darganfod mewn cerbydau heb eu trethu a gafodd eu clampio a’u hatafaelu.
Mae DVLA yn ysgrifennu at geidwad pob cerbyd i’w hatgoffa pan fydd angen talu eu treth. Dyna pam ei bod mor bwysig i fodurwyr hysbysu DVLA os ydynt wedi newid eu cyfeiriad.
Mae clampio olwynion yn un o amrywiaeth o fesurau gorfodi a ddefnyddir gan DVLA yn erbyn cerbydau sydd heb eu trethu. Pan fydd cerbyd heb ei drethu yn cael ei glampio, bydd yn rhaid i’r modurwr dalu ffi rhyddhau o £100 ac - os na allant ddangos bod y cerbyd wedi cael ei drethu - ffi sicrwydd o £160. Ad-dalir y ffi sicrwydd os yw’r modurwr yn gallu dangos bod y cerbyd wedi’i drethu o fewn 15 diwrnod o ryddhau’r cerbyd. Os nad yw’r ffi rhyddhau wedi’i dalu o fewn 24 awr, yna bydd DVLA yn atafaelu’r cerbyd. Yna bydd y ffi rhyddhau yn codi i £200 a bydd ffi storio o £21 y dydd. Unwaith eto, rhaid talu ffi sicrwydd o £160 os na all y modurwr ddangos bod y cerbyd wedi’i drethu.
Os yw cerbyd wedi cael ei ddatgan oddi ar y ffordd (HOS), rhaid ei gadw oddi ar y ffordd, ar dir preifat.
Caiff unrhyw eiddo personol a geir mewn cerbydau sydd wedi’u hatafaelu eu rhestru a’u storio am gyfnod o amser rhag ofn eu bod yn cael eu hawlio, cyn eu bod ar gael i’w gwerthu. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am drethu cerbyd, gan gynnwys sut i wneud hyn ar-lein ar GOV.UK yn: www.gov.uk/treth-car
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407