Gwersi gyrru, profion theori a phrofion gyrru i ailgychwyn yng Nghymru
Bydd hyfforddiant gyrwyr a beicwyr yn ailgychwyn ar ddydd Llun 27 Gorffennaf 2020 yng Nghymru, gyda phrofion theori a phrofion gyrru yn ailgychwyn o ddydd Llun 3 Awst 2020.

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd:
- gyrwyr a beicwyr modur yn gallu ailgychwyn hyfforddi yng Nghymru o ddydd Llun 27 Gorffennaf
- profion theori yn ailgychwyn ar ddydd Llun 3 Awst
- profion gyrru beic modur, lori, bws a choets, car a threlar, a thractor yn ailgychwyn ddydd Llun 3 Awst
- profion gyrru ceir yn ailgychwyn ar ddydd Llun 17 Awst
- profion hyfforddwyr a gwiriadau safonau yn ailgychwyn ar ddydd Llun 17 Awst
Mae hyn yn berthnasol i bob math o hyfforddiant gyrwyr a beiciau modur yng Nghymru o’r dyddiadau hyn, gan gynnwys ymarferion preifat gyda rhywun sy’n byw gyda chi.
Bydd profion theori yn ailgychwyn yng Nghymru ar ddydd Llun 3 Awst. Bydd y profion yn cael eu cynnal gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith i helpu i atal lledaeniad coronafeirws.
Bydd profion gyrru ceir yn ailgychwyn yng Nghymru ar ddydd Llun 17 Awst, a fydd yn rhoi amser i yrwyr sy’n dysgu gael gwersi diweddaru ac ymarfer cyn cymryd eu prawf.
Mae dyddiadau gwahanol ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Pryd fydd gwersi a phrofion yn ailgychwyn
Mae pryd fydd gwasanaethau’n ailgychwyn yn dibynnu ar ba gerbyd rydych chi’n dysgu ei yrru neu ei reidio.
Car
Gwasanaeth | Dyddiad |
---|---|
Gwersi gyrru | Dydd Llun 27 Gorffennaf 2020 |
Profion theori | Dydd Llun 3 Awst 2020 |
Profion gyrru | Dydd Llun 17 Awst 2020 |
Beic modur a moped
Gwasanaeth | Dyddiad |
---|---|
Hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) beic modur a moped | Dydd Llun 27 Gorffennaf 2020 |
Hyfforddiant cynllun mynediad uniongyrchol (DAS) beic modur | Dydd Llun 3 Awst 2020 |
Profion theori | Dydd Llun 3 Awst 2020 |
Profion modiwl 1 a modiwl 2 beic modur a moped | Dydd Llun 3 Awst 2020 |
Lori, bws a choets
Gwasanaeth | Dyddiad |
---|---|
Hyfforddiant gyrwyr | Dydd Llun 27 Gorffennaf 2020 |
Profion theori | Dydd Llun 3 Awst 2020 |
Profion gyrru | Dydd Llun 3 Awst 2020 |
Car a threlar
Gwasanaeth | Dyddiad |
---|---|
Hyfforddiant gyrwyr | Dydd Llun 27 Gorffennaf 2020 |
Profion gyrru | Dydd Llun 3 Awst 2020 |
Tractor a cherbyd arbenigol
Gwasanaeth | Dyddiad |
---|---|
Hyfforddiant gyrwyr | Dydd Llun 27 Gorffennaf 2020 |
Profion gyrru | Dydd Llun 3 Awst 2020 |
Hyfforddwr gyrru cymeradwy (ADI)
Gwasanaeth | Dyddiad |
---|---|
Hyfforddiant hyfforddwyr gyrru | Dydd Llun 27 Gorffennaf 2020 |
Prawf ADI rhan 1 (theori) | Dydd Llun 3 Awst 2020 |
Prawf ADI rhan 2 (gallu gyrru) | Dydd Llun 17 Awst 2020 |
Prawf ADI rhan 3 (gallu hyfforddi) | Dydd Llun 17 Awst 2020 |
Gwiriad safonau ADI | Dydd Llun 17 Awst 2020 |
Hyfforddwr beic modur
Gwasanaeth | Dyddiad |
---|---|
Prawf theori hyfforddwr cynllun beicwyr uwch DVSA | Dydd Llun 3 Awst 2020 |
Helpu’r wlad i ddechrau symud eto
Meddai Gareth Llewellyn, Prif Weithredwr DVSA:
Mae wedi bod yn hanfodol bod gwersi a phrofion yn ailgychwyn dim ond pan ei bod hi’n ddiogel i wneud hynny ac yn unol â chyngor y llywodraeth
Rydym yn gwybod bod hyn wedi bod yn gyfnod anodd i’r wlad gyfan gan gynnwys dysgwyr a hyfforddwyr gyrru ond rwy’n falch o gyhoeddi ailgychwyn gwersi a phrofion yng Nghymru
Mae profion ar gyfer gweithwyr allweddol wedi parhau yn ystod y cyfyngiadau symud a hoffwn ddiolch i’r holl hyfforddwyr ac arholwyr hynny sydd wedi parhau i weithio i helpu darparu profion i’r rheini sydd wedi gwneud cymaint i’n helpu ni yn ystod y pandemig ofnadwy hwn.
Updates to this page
-
Added a Welsh translation of the news story.
-
Added the date that approved driving instructor (ADI) part 3 (instructional ability) tests and ADI standards checks restart in Wales.
-
First published.