Datganiad i'r wasg

Gyrwyr yn colli bron miliwn o drwyddedau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw gan DVLA, collodd bron miliwn o yrwyr Prydain eu trwyddedau gyrru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Purse with a driving licence tucked into slot

Mae’n rhaid i bob gyrrwr ym Mhrydain gael trwydded yrru fel prawf o’u hawl i yrru – ond nid ydynt o reidrwydd yn gorfod cario eu trwydded gyda nhw.

Y llynedd, cafodd y mwyafrif o drwyddedau dyblyg eu cyflwyno drwy wasanaeth ar-lein DVLA. Er bod DVLA yn adennill y gost drwy’r ffi a delir gan y gyrwyr, mae DVLA yn cynghori gyrwyr i gadw eu trwydded yn ddiogel er mwyn osgoi gorfod talu am un newydd.

Dywedodd Dudley Ashford, Rheolwr Gwasanaeth Gyrwyr DVLA:

Er nad oes rheidrwydd yn ôl y gyfraith i chi gario eich trwydded gyda chi wrth i chi yrru, mae angen i chi gael trwydded rhag ofn y bydd angen i chi brofi eich bod yn gallu gyrru. Felly, byddem yn argymell eich bod yn cadw eich trwydded yn ddiogel bob amser – efallai drwy ei gadw mewn un man diogel ynghyd â dogfennau pwysig eraill.

Gobeithio na fydd rhaid i chi gael trwydded newydd, ond os ydych yn mynd i’w gario o gwmpas gyda chi a’ch bod chi’n digwydd ei golli, mae’n bob amser yn haws gwneud cais am un newydd ar-lein.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 8 person allan o 10 ar gyfartaledd ar draws Prydain Fawr yn cario eu trwydded gyda nhw. Fodd bynnag, mae’r ffigurau hefyd yn dangos y gallai eich oedran a lle’r ydych yn byw penderfynu ym mhle rydych yn cadw eich trwydded yrru.

  • Mae gyrwyr yn yr Alban bron dwywaith yn fwy tebygol o gadw eu trwydded yn eu car, o’i gymharu â gweddill Prydain.

  • Gyrwyr yng Nghymru sydd fwyaf tebygol o gadw eu trwydded yrru gartref.

  • Mae gyrwyr iau ar draws Prydain Fawr yn llawer mwy tebygol o ddewis cario eu trwydded gyda nhw (87%). Po hynaf yw’r gyrrwr, y mwyaf tebygol ydyw o gadw ei drwydded gartref.

Hefyd, datgelodd y ffigurau fod:

  • 82% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed a arolygwyd yn defnyddio gwasanaethau ar-lein DVLA i wneud cais am eu trwyddedau gyrru, eu hadnewyddu neu eu diweddaru
  • mae pobl ifanc yn fwy tebygol o wneud cais am adnewyddu lluniau ac am gardiau newydd ar ôl colli eu trwydded
  • mae nifer cynyddol o yrwyr 70 oed a hŷn, y mae’n rhaid iddynt adnewyddu eu trwyddedau bob tair blynedd, yn dewis gwneud hyn ar-lein
  • ers 2010, mae nifer y gyrwyr 70 oed a hŷn sy’n adnewyddu eu trwyddedau ar-lein wedi treblu i fwy na 700,000 y llynedd

Nodiadau i olygyddion

  • Gwnaethpwyd 27 miliwn o drafodion drwy’r gwasanaeth Trwydded Yrru Ar-lein ers lansio’r gwasanaeth ddegawd yn ôl.
  • Y trafodyn mwyaf poblogaidd yw’r gwasanaeth ‘newid cyfeiriad’, sy’n galluogi gyrwyr i ddiweddaru eu trwyddedau pe baent yn symud.
  • Lle y codir ffioedd, cânt eu cyfuno er mwyn helpu i adennill costau gweithredu cyffredinol. Mae mwy na thri chwarter yr holl drafodion a brosesir gennym yn rhad ac am ddim. Mae’r rhain yn cynnwys rhai o’r trafodion mwyaf cyffredin, megis newid cyfeiriad neu newid manylion.
  • £20 yw’r ffi i gael trwydded yrru newydd yn lle un a gollwyd, a hynny drwy’r gwasanaeth ar-lein neu drwy’r post.

Manylion yr arolwg

  • Dywedodd 22.7% o’r rheiny a arolygwyd yng Nghymru eu bod yn cadw eu trwyddedau gartref.
  • Nododd 3.10% o’r rhai hynny a arolygwyd yn yr Alban eu bod yn cadw eu trwyddedau yn eu ceir (o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 1.7%).
  • Mae 18.5% o bobl 55 oed a hŷn yn cadw eu trwyddedau gartref, o’i gymharu â 7% o bobl rhwng 16 a 34 oed.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 14 March 2018