Datganiad i'r wasg

Gyrwyr yn derbyn estyniad 7 mis ar drwydded yrru cerdyn-llun

Mae’r estyniad yn gymwys ar gyfer gyrwyr sydd â thrwydded yrru cerdyn-llun sy’n dod i ben rhwng 1 Chwefror a 31 Awst 2020.

Image of a UK driving licence

Mae DVLA wedi cyhoeddi heddiw (4 Mehefin 2020) y bydd gyrwyr sydd â thrwydded yrru cerdyn-llun sy’n dod i ben rhwng 1 Chwefror a 31 Awst 2020 yn derbyn estyniad 7 mis o’r dyddiad dod i ben. Bydd hyn yn cynorthwyo gyrwyr i wneud teithiau hanfodol heb orfod cael ffotograff newydd i adnewyddu eu trwydded.

Fel arfer mae gofyn bod gyrwyr yn adnewyddu eu trwydded yrru cerdyn-llun bob 10 mlynedd, a gyrwyr bws a lori bob 5 mlynedd. Mae rheoliad UE newydd wedi’i gyflwyno sy’n golygu y bydd cardiau-llun sy’n dod i ben rhwng 1 Chwefror a 31 Awst 2020 yn cael eu hymestyn yn awtomataidd am 7 mis ychwanegol o’r dyddiad dod i ben.

Bydd llythyr atgoffa yn cael ei anfon i yrwyr adnewyddu cyn bod ei estyniad 7 mis yn dod i ben.

Mae’r estyniad yn gymwys i’r cerdyn-llun. Os yw hawl gyrrwr i yrru ar fin dod i ben a’i fod yn dymuno parhau i ddal trwydded ddilys, bydd angen iddynt adnewyddu’r hawl hwn yn y ffordd arferol.

Dywedodd Prif Weithredwr DVLA Julie Lennard:

Bydd yr estyniad hwn yn ei wneud yn haws ar gyfer gyrwyr sydd angen diweddaru eu trwyddedau gyrru gyda ffotograff newydd. Mae hyn yn golygu cyn belled bod ganddynt drwydded ddilys, bydd gyrwyr yn gallu parhau i wneud teithiau hanfodol.

Mae’r estyniad yn awtomatig felly nid oes angen i yrwyr wneud un rhywbeth a byddant yn derbyn llythyr atgoffa i adnewyddu eu cerdyn-llun cyn bod yr estyniad yn dod i ben.

Cyflwynir y newid o 4 Mehefin 2020.

Mae gwasanaethau ar-lein DVLA i adnewyddu eich trwydded yrru ac amnewid trwydded yrru ar gael ar gyfer y gyrwyr hynny sydd angen adnewyddu eu hawl i yrru neu gael trwydded yrru newydd yn lle un sydd wedi’i cholli neu’i dwyn.

Nodiadau i olygyddion:

Mae trwydded (Grŵp 1) car yn gyffredinol mewn grym tan fod y gyrrwr yn cyrraedd 70 oed, oni bai ei bod yn cael ei diddymu neu ei hildio. Yn 70 oed mae’n rhaid i’r gyrrwr adnewyddu ei hawl i yrru bob 3 mlynedd os ydynt yn dymuno parhau i ddal trwydded ddilys. Mae gofyn i ddalwyr trwydded (Grŵp 2) bws a lori sy’n 45 oed a hŷn i adnewyddu eu hawl bob 5 mlynedd. Bydd hefyd angen i ddalwyr trwyddedau meddygol tymor-byr adnewyddu eu hawl i yrru. Nid yw’r estyniad 7 mis yn gymwys ar gyfer adnewyddiadau hawl i yrru.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 4 June 2020