Gall gyrwyr arbed hyd at 10 diwrnod drwy hysbysu DVLA am gyflwr meddygol ar-lein
Gall deiliaid trwyddedau car a beiciau modur nawr hysbysu DVLA am ystod ehangach o gyflyrau meddygol ar-lein, gan arbed hyd at 10 diwrnod wrth aros am benderfyniad o'i gymharu â cheisiadau papur.
Mae mwy na 60,000 o yrwyr eisoes wedi defnyddio gwasanaeth meddygol ar-lein gwell DVLA, gan elwa ar ddewis arall cyflymach a haws yn lle ceisiadau papur.
Gall gyrwyr nawr ymweld â GOV.UK i wirio sut y gall tua 1,600 o gyflyrau meddygol effeithio ar eu gyrru ac, os oes angen, hysbysu DVLA ar-lein. Ar hyn o bryd, mae DVLA yn gweld galw eithriadol o uchel am geisiadau gan gwsmeriaid sydd â chyflyrau meddygol. I lawer o gwsmeriaid, gall defnyddio’r gwasanaeth ar-lein leihau amseroedd prosesu o gymharu â cheisiadau papur, gyda rhai ceisiadau’n cael eu prosesu hyd at 10 diwrnod yn gynt. Mewn llawer o achosion, gall DVLA hefyd gymryd y cam cyntaf wrth ymdrin â chais, fel ei gyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol, o fewn 24 awr.
Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae’n arwain cwsmeriaid drwy bob cam o’r broses ac yn eu galluogi i olrhain cynnydd eu cais ar-lein, gan gynnig mwy o eglurder a chyfleustra.
Mae’r ehangiad yn golygu y gall miliynau yn rhagor o yrwyr elwa bellach ar wasanaethau digidol DVLA. Gall gyrwyr sydd â chyflyrau meddygol lluosog nawr adnewyddu eu trwydded yrru ar-lein am y tro cyntaf, tra gall deiliaid trwyddedau meddygol hefyd adnewyddu’r ffotograff ar eu trwydded yrru ar yr un pryd, gan leihau gwaith papur a’r angen am drafodion ar wahân.
Mae’r gwasanaeth yn profi i fod yn fwyfwy poblogaidd, gyda thwf o bron i 50% yn y defnydd o’r gwasanaeth digidol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Bydd gwelliannau pellach sydd wedi’u cynllunio ar gyfer eleni yn sicrhau bod y gwasanaeth ar gael yn Gymraeg ac yn ymestyn hysbysiadau meddygol ar-lein i deithiau cwsmeriaid ychwanegol. Bydd hyn yn galluogi gyrwyr sy’n adnewyddu eu trwydded yn 70 oed, ymgeiswyr am drwydded dros dro am y tro cyntaf, a chwsmeriaid y cafodd eu trwyddedau eu hildio neu eu diddymu yn flaenorol, i elwa ar hysbysiadau meddygol ar-lein fel rhan o’r trafodion hynny.
Gall gyrwyr wirio a oes angen iddynt hysbysu DVLA am gyflwr meddygol a chael mynediad at y gwasanaeth ar GOV.UK.
Dywedodd y Gweinidog Ffyrdd Justin Madders:
Mae angen i yrwyr allu rhoi gwybod am gyflyrau meddygol yn gyflym ac yn hawdd. Rwy’n deall eu rhwystredigaeth a dyna pam rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r DVLA i hyrwyddo gwelliannau i’r gwasanaethau y mae gyrwyr yn eu derbyn.
Mae’r gwasanaeth ar-lein cyflym a hawdd i’w ddefnyddio yn ei gwneud hi’n haws i yrwyr roi gwybod am eu cyflyrau meddygol, gan wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb sy’n eu defnyddio. Bydd y fenter newydd hon yn arbed amser ac arian i bobl fel y gallant gadw eu trwyddedau’n gyfredol, ac mae eisoes yn gweithio i filoedd o gwsmeriaid sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Dywedodd Tim Moss CBE, Prif Weithredwr DVLA:
Mae mwy na 60,000 o yrwyr eisoes wedi newid i’n gwasanaeth meddygol ar-lein, gan arbed amser, osgoi gwaith papur ac elwa ar broses ymgeisio gyflymach.
Gall cwsmeriaid arbed hyd at 10 diwrnod drwy wneud cais ar-lein yn hytrach na drwy’r post. Yn ogystal â gwneud ceisiadau yn gyflymach ac yn haws, mae gyrwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn gyfunol wedi osgoi degau o filoedd o bunnoedd mewn costau postio.
Gyda mynediad 24/7 a’r gallu i olrhain cynnydd ar-lein, rydyn ni’n yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i bobl reoli eu trwydded yrru mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw.
Manteision defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
Gall gyrwyr:
- arbed hyd at 10 diwrnod o’i gymharu â cheisiadau papur
- hysbysu DVLA am gyflyrau meddygol lluosog
- defnyddio’r gwasanaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
- osgoi ffurflenni papur a chostau postio
- olrhain cynnydd eu cais ar-lein
- adnewyddu trwydded yrru feddygol
- adnewyddu trwydded feddygol a ffotograff trwydded yrru ar yr un pryd
Swyddfa'r wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
E-bost press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407