Cyflwyno Bil Cymru Drafft i’r Senedd
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones wedi cyhoeddi Bil Cymru drafft heddiw
Heddiw (18 Rhagfyr), cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, Fil Cymru drafft a fydd yn galluogi llywodraethu datganoledig yng Nghymru i ddod yn fwy atebol.
Mae’r Bil drafft yn dilyn cyhoeddi ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad cyntaf Comisiwn Silk ynglŷn â datganoli pwerau trethu a benthyca i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn ei hymateb, cytunodd Llywodraeth y DU, yn gyfan gwbl neu yn rhannol, i bron pob un o’r argymhellion.
O ganlyniad, bydd y Bil drafft yn:
- galluogi i’r Cynulliad ddeddfu ynglŷn â threthiant datganoledig, yn benodol treth dir y dreth stamp a threth tirlenwi
- darparu ar gyfer refferendwm yng Nghymru i holi a ddylai elfen o’r dreth incwm gael ei datganoli
- caniatau i’r Cynulliad, yn amodol ar bleidlais o blaid mewn refferendwm, sefydlu cyfradd Gymreig at ddibenion cyfrifo cyfraddau treth incwm i’w talu gan drethdalwyr Cymru
- ehangu’r amgylchiadau lle gall Gweinidogion Cymru fenthyca yn y tymor byr i reoli cyllideb Llywodraeth Cymru, a dyfarnu pwerau newydd i Weinidogion Cymru i fenthyca ar gyfer gwariant cyfalaf
Bydd y newidiadau hyn yn peri i’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru fod yn fwy atebol i bobl Cymru am yr arian a wariant.
Bydd y Bil drafft hefyd yn:
- ehangu tymor y Cynulliad yn barhaol o bedair blynedd i bump, gan ei gwneud hi’n llai tebygol y bydd etholiadau’r Cynulliad yn cyd-daro ag etholiadau seneddol San Steffan i’r dyfodol
- dileu’r gwaharddiad ar ymgeiswyr yn etholiadau’r Cynulliad i sefyll mewn etholaeth ac ar restr ranbarthol
- gwahardd “swyddi deuol”, drwy atal Aelodau Cynulliad rhag bod yn ASau hefyd
Mae cyhoeddi’r Bil Cymru drafft heddiw yn dilyn manylion pecyn pwerau ariannol y Llywodraeth ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd y mis diwethaf.
Gan siarad wedi’r cyhoeddiad, dywedodd Ysgrifennydd Cymru David Jones:
Bydd y ddeddfwriaeth ddrafft hon a gyhoeddwyd gennym heddiw’n caniatau i lywodraethu datganoledig yng Nghymru ddod yn fwy atebol ac yn fwy abl i gefnogi twf economaidd yng Nghymru.
Rwy’n awyddus iawn i yrru’r diwygiadau hyn yn eu blaen, a dyna pam yr wyf wedi cyhoeddi’r bil yma mor gyflym. Bydd hyn yn galluogi i’r craffu cyn-deddfu ddigwydd yn y Flwyddyn Newydd.
Drwy gyfrwng y Bil hwn, bydd y Llywodraeth yn cyflenwi pecyn uchelgeisiol ar ran Cymru. Fodd bynnag, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw manteisio ar y cyfle i yrru twf economaidd Cymru yn ei flaen gyda’r pwerau a gynigir iddi heddiw.
Nodyn i Olygyddion:
Mae copi o’r Bil Cymru drafft i’w weld yma
Mae Datganiad Ysgrifenedig y Gweinidog i’w weld yma