Ffigurau’r Adran Masnach Ryngwladol yn dangos dros 5000 o swyddi newydd yng Nghymru
Ysgrifennydd Gwladol yn ymateb i ffigyrau FDI newydd eu rhyddhau.
Crëwyd 5,443 o swyddi newydd yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf drwy 97 o brosiectau, sef cynnydd o 7% ar ffigurau y flwyddyn flaenorol. Gyda’i gilydd, crëwyd neu diogelwyd bron i 7,000 o swyddi gan FDI.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:
Mae’r ffigurau hyn yn dangos bod Cymru’n parhau i fod yn gyrchfan atyniadol ar gyfer buddsoddiad tramor, gan roi hwb gwerthfawr i’r economi a chreu miloedd o swyddi. Erbyn hyn mae gan ein gwlad lwyfan aruthrol i adeiladu arno dros y misoedd nesaf wrth i ni wneud cynlluniau i adael yr Undeb Ewropeaidd, creu cysylltiadau cryfach gyda phartneriaid rhyngwladol a denu mwy o fuddsoddiad o farchnadoedd sy’n dod i’r amlwg.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler yma