Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn enwi llong ryfel newydd yn HMS Cardiff ar Ddydd Gŵyl Dewi

Ddydd Gŵyl Dewi, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU mai enw un o’r llongau rhyfel Math 26 newydd yw HMS Cardiff.

A hithau’n drydedd i’w henwi yn y Dosbarth Dinasoedd o wyth ffrigad ryfela, arloesol, newydd, sy’n gallu ymosod ar longau tanfor, bydd HMS Cardiff yn darparu mwy o amddiffyniad i longau awyrennau Dosbarth y Frenhines Elizabeth, ac ataliaeth niwclear y DU a’u tebyg, ac yn cynnig gallu rhyfela heb ei ail i ymosod ar longau tanfor.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Gavin Williamson:

Bydd HMS Cardiff yn deyrnged wych i Gymru a’i phrifddinas. Bydd yn atgyfnerthu amddiffynfeydd y Deyrnas Unedig ar draws moroedd y byd – yn amddiffyn ein llongau awyrennau ac yn diogelu ein dyfroedd rhag bygythiadau cynyddol.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae hwn yn gyfnod godidog nid yn unig i’r Llynges Frenhinol ond i Gymru gyfan.

Mae gan Gymru hanes milwrol cryf, ac mae’r cyhoeddiad hwn yn ddathliad o’r cyfraniad a wneir gan ein gwlad i amddiffyn y DU.

Rwy’n falch o weld enw ein prifddinas ar long ryfel y Llynges Frenhinol a fydd yn mynd i ddyfroedd rhyngwladol i amddiffyn ein diogelwch cenedlaethol a diogelu ein milwyr, yn ddynion a marched, ledled y byd.

Dywedodd Syr Philip Jones, Prif Arglwydd Lyngesydd y Morlys:

Mae’n wych gweld yr enw HMS Cardiff yn dychwelyd i’r Fflyd fel un o’n Ffrigadau Math 26 newydd, sy’n adlewyrchu cyswllt hir-sefydledig y Llynges Frenhinol gyda’r ddinas a phobl Cymru. Gyda’r enw HMS Cardiff y daw hanes balch. Ganrif yn ôl, daeth y criwser ysgafn, HMS Cardiff, i enwogrwydd am arwain yr ymgyrch i gaethiwo Fflyd Cefnforoedd yr Almaen yn Scapa Flow ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe wnaeth yr HMS Cardiff diwethaf, dinistriwr Math 42, hefyd ddod i amlygrwydd mewn gweithrediadau ledled y byd, gan gynnwys ymgyrch Ynysoedd Falkland 1982, Rhyfel y Gwlff ym 1991 a gwasanaethu yn yr Adriatig yn ystod argyfwng 1999 yn Kosovo.

Bydd y genhedlaeth nesaf hon o ffrigadau yn cwmpasu’r datblygiadau arloesol a’r cynnydd technolegol diweddaraf i ddarparu gallu rhyfela i ymosod ar longau tanfor o safon fyd-eang, o fewn llwyfan hyblyg iawn sy’n cael ei ddefnyddio ledled y byd. Am flynyddoedd i ddod, fel rhan o grŵp gorchwyl sy’n cael ei arwain gan longau awyrennau y Llynges Frenhinol neu weithio gyda’n partneriaid rhyngwladol, bydd HMS Cardiff a’i chwaer longau’n barod i gyflwyno sbectrwm eang o weithrediadau, o deithiau diplomyddol a dyngarol, i ryfela datblygedig iawn, gan hyrwyddo a diogelu buddiannau Prydain ledled y byd.

Cafodd yr achlysur o enwi ei nodi gan ddigwyddiad yn Mansion House yng Nghaerdydd y bore yma, dan arweiniad myfyrwyr o Uned Forol Frenhinol Prifysgol Cymru, y sefydliad hyfforddi ar gyfer grŵp o israddedigion o bob cwr o’r wlad, sy’n dangos potensial fel arweinwyr cymdeithas y dyfodol.

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd y Gweinidog Amddiffyn, Guto Bebb:

Fel Cymro balch, mae’n anrhydedd mawr i gyhoeddi cyfnod arall o longau rhyfel gyda’r enw HMS Cardiff yn gwarchod y DU, gartref a thramor. Mae’r myfyrwyr hyn wedi dangos brwdfrydedd mawr dros bopeth a gynrychiolir gan y Llynges Frenhinol, ac os byddant yn symud ymlaen i fod yn gapteiniaid yn y dyfodol, gallent fod wrth lyw llong ryfel arloesol, hollol anhygoel, gydag HMS Cardiff.

Bydd yr HMS Cardiff newydd yn dechrau gwasanaethu yn y 2020au ac ynghyd â’i chyd-ffrigadau Math 26, bydd yn darparu arf ryfela ddatblygedig iawn, lle bynnag y bydd ei hangen, wrth ddiogelu buddiannau’r DU yn ogystal â llongau tanfor niwclear Prydain. Bydd ei dyluniad hyblyg hefyd yn golygu bod modd addasu’r galluoedd hyn i wrthsefyll bygythiadau yn y dyfodol, a bydd y llongau yn elwa o’r datblygiadau diweddaraf mewn technoleg ddigidol.

Hi fydd y bedwaredd long i gael ei henwi i anrhydeddu prifddinas Cymru, a daw’r cyhoeddiad 100 mlynedd ar ôl i’r llong HMS Cardiff gyntaf arwain Fflyd Cefnforoedd yr Almaen a ildiodd, i Scapa Flow ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi yn enghraifft bellach o ymrwymiad y Weinyddiaeth Amddiffyn i Gymru, lle mae’r Weinyddiaeth heddiw wedi cyhoeddi ei bod yn gwario £300 ar bob aelod o’r boblogaeth, £20 yn fwy fesul unigolyn na’r llynedd. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghymru yn cynnwys archeb unigol fwyaf y DU ar gyfer cerbyd wedi’i arfogi mewn 30 mlynedd: y cerbydau Ajax gwerth £4.5bn sy’n cael eu hadeiladu yn ffatri ‘General Dynamics’ Merthyr Tudful.

Hefyd, cynhelir Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni yng Nghymru, 30 Mehefin, yn nhref glan môr hanesyddol Llandudno yng Ngogledd Cymru. Bydd y digwyddiad, a fydd hefyd yn dathlu degfed pen-blwydd Diwrnod y Lluoedd Arfog, yn dathlu gwaith ein milwyr, yn ferched a dynion, gyda gorymdaith filwrol ysblennydd, awyrennau’n hedfan heibio ac arddangosfeydd trawiadol o gyfarpar.

Mae gan Ogledd Cymru lawer o gysylltiadau cyfredol a hanesyddol gyda’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys nifer o unedau Byddin Rheolaidd a Byddin Wrth Gefn. Mae llawer o unigolion o Ogledd Cymru’n falch o wasanaethu yn y Cymry Brenhinol ac mae RAF y Fali sydd gerllaw ar Ynys Môn yn gartref i ganolfan hyfforddi awyrennau jet cyflym. Mae bron i 10,000 o gyn-filwyr yn byw yng Nghonwy, gyda chymorth nifer o elusennau lleol a chenedlaethol.

Daw’r cyhoeddiad hefyd wrth i BAE Systems roi contract i Lockheed Martin arfogi’r Math 26 gyda’r unig system o’i math sy’n gallu lansio taflegrau i ymosod ar longau tanfor, yn yr awyr, wyneb-i-wyneb ac ar bellter ergyd. Bydd tair System Lansio Fertigol MK 41 yn cael eu gosod ar bob llong. Mae’r Llynges Frenhinol wedi archebu naw modiwl cychwynnol ar gyfer y tair llong gyntaf, gan gynnwys HMS Cardiff.

Mae nifer o gynghreiriaid agos, gan gynnwys Awstralia a Chanada, hefyd yn ystyried y dyluniad Math 26 diweddaraf. Ar hyn o bryd, mae HMS Sutherland yn Awstralia yn dangos gallu ymosodiadau llongau tanfor o’r radd flaenaf sydd gan y DU.

Mae ffrigadau Math 26 y Llynges Frenhinol yn cael eu hadeiladu yn iardiau llongau Clud yn yr Alban. Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn 20 mlynedd o waith yno yn 2017, na welwyd ei debyg o’r blaen, gan ddiogelu dros 4,000 o swyddi, gyda’r contract o £3.7bn i adeiladu’r tair o blith wyth ffrigad Math 26 i ganfod llongau tanfor yn digwydd yno. Mae dwy long arall yn y dosbarth eisoes wedi’u henwi yn HMS Glasgow a HMS Belfast. HMS Cardiff yw’r drydedd long i gael ei henwi, a’r ail i gael ei chynhyrchu.

Cyhoeddwyd ar 1 March 2018