Llywodraeth y DU n lansio llinell gynhyrchu tanwydd milwrol newydd, 'FireDragon'
Mae Gweinidog y DU Guto Bebb a Stuart Andrew wedi lansio'n swyddogol llinell gynhyrchu newydd sbon sef FireDragon, y tanwydd bio-ethanol solet cyntaf yn y byd

Defence Minister Guto Bebb opens new FireDragon production line at BCB International. Crown copyright.
Mae FireDragon, a gynhyrchwyd gan weithgynhyrchwyr cyfarpar goroesi BCB International Ltd yng Nghaerdydd sy’n 164 mlwydd oed, yn danwydd arloesol newydd a ddefnyddir gan filwyr Prydain ar faes y gad i wresogi eu pecynnau dogn, lle nad yw cyfleusterau arlwyo rheolaidd yn bodoli. Mae bron i 8 miliwn o’r tabledi wedi’u dosbarthu i Fyddin Prydain erbyn hyn.
Yn wahanol i dabledi tanwydd amgen, nid yw FireDragon yn creu unrhyw fygdarthau gwenwynig niweidiol posibl. Mae’n llosgi’n lân, mae’n ddiwenwyn ac mae wedi cael ei greu o gynhwysion naturiol cynaliadwy.
Amcangyfrifir bod contract y Weinyddiaeth Amddiffyn gyda’r gwneuthurwr o Gymru werth £3.6 miliwn gyda’r cwmni’n cyflenwi stofiau a thanwydd i’r lluoedd arfog. Mae’r cytundeb yn atgyfnerthu ymrwymiad diwydiannol yr adran i gwmnïau ledled y DU, yn ogystal â’r amgylchedd.
Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn Guto Bebb:
O jetiau ymladd i ddognau tanwydd, mae’n hanfodol bod gan ein milwyr y cyfarpar gorau posibl. Mae FireDragon yn helpu ein lluoedd arfog i elwa o ffynhonnell tanwydd glanach, saffach a mwy cynaliadwy.
Mae gan BCB International 164 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cyfarpar goroesi, a bydd y llinell gynhyrchu newydd hon yn sicrhau y gall y cwmni ateb y galw cynyddol a pharhau i ehangu ei weithlu yn y blynyddoedd i ddod.
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, Stuart Andrew:
Ers degawdau, mae BCB International wedi bod ar flaen y gad o ran creu cynnyrch arloesol newydd sy’n diogelu bywydau mewn amgylchiadau eithafol ledled y byd. P’un a yw unigolion hanner ffordd i fyny mynydd, yng nghanol yr anialwch, yn ddwfn yn y jyngl neu mewn moroedd garw, gall eu hymrwymiad i arloesedd olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.
Ac mae’r ymrwymiad hwn yn parhau mewn perthynas â’i weithlu a’i weithrediadau yng Nghymru. Mae creu’r llinell gynhyrchu newydd hon yn arwydd o hyder yn sgiliau ac arbenigedd ei weithlu ac yn hyder y cwmni i barhau i ddatblygu yn y dyfodol.
Bydd pymtheg o swyddi newydd yn cael eu creu o ganlyniad i’r llinell gynhyrchu sydd werth £750,000. Mae FireDragon yn enghraifft arall o’r berthynas rhwng y Gwasanaeth Amddiffyn a Chymru, lle maent yn gwario £300 ar gyfer pob aelod o’r boblogaeth, £20 yn fwy na’r llynedd. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghymru yn cynnwys yr archeb unigol fwyaf yn y DU ar gyfer cerbyd wedi’i arfogi mewn 30 mlynedd: y cerbydau AJAX sy’n cael eu hadeiladu yn ffatri General Dynamics, Merthyr Tudful sy’n costio £4.5 biliwn.
Mewn teyrnged i Gymru a’i phrifddinas, enwodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Gavin Williamson un o wyth ffrigad rhyfel danfor arloesol newydd sbon yn HMS Caerdydd. Bydd yn gyfrifol am ddiogelu arfau ataliol y DU a chludwyr awyrennau’r Frenhines Elizabeth, a chynnig capasiti rhyfela gwrth-danfor heb ei hail.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr BCB International, Andrew Howell:
Rydym yn falch iawn o groesawu’r Gweinidog i’n cyfleuster tanwydd FireDragon. Mae FireDragon yn ddewis mwy diogel a glanach. Mae’n cael ei wneud o gynhwysion naturiol cynaliadwy, mae’n ddiwenwyn, mae’n llosgi’n lân, a gellir ei gynnau hyd yn oed pan fydd yn wlyb a gellir ei ddefnyddio i olchi dwylo os oes angen.
Byddin Prydain oedd y fyddin gyntaf i wneud y penderfyniad a newid i FireDragon. Mae’r symudiad hwn wedi annog Byddinoedd eraill i ystyried FireDragon fel tanwydd ar gyfer y dyfodol.
Nodyn i olygyddion:
- Mae BCB International Cyf (BCB) wedi’i gontractio i gyflenwi Gwresogyddion Dognau Gweithrediadol (ORH) – sy’n cynnwys stofiau a thanwydd cysylltiedig - i Luoedd Arfog y DU. Defnyddir ORH i ferwi dŵr ar gyfer paratoi diodydd poeth a chynhesu prydau bwyd yn y Pecynnau Dognau Gweithredol (ORP).
- Mae’r tanwydd yn cael ei gyflenwi â phopty ysgafn y gellir ei weithredu gyda 3 bloc tanwydd FireDragon.
- Mae’r contract yn gontract sydd wedi’i etifeddu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, sydd bellach yn cael ei reoli gan Team Leidos fel rhan o’r contract gyda Logistics Commodities and Services (Transformation).
- Dyfarnwyd y contract ORH am bedair blynedd ar 6 Hydref 2015 ac mae ganddo werth amcangyfrifedig o £3.6 miliwn.