Stori newyddion

David Jones yn croesawu’r gwasgu ar alcohol rhad

Croesawodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, y cynlluniau i wasgu ar argaeledd alcohol rhad a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth 18 Ionawr) …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Croesawodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, y cynlluniau i wasgu ar argaeledd alcohol rhad a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth 18 Ionawr) gan y Swyddfa Gartref.

Dan y cynlluniau newydd, bydd adwerthwyr yn cael eu gwahardd rhag gwerthu alcohol o dan gyfradd y doll + TAW…

Dywedodd Mr Jones:  “Dyma’r cam pwysig cyntaf  at gyflawni ymrwymiad y Llywodraeth i wahardd gwerthu alcohol o dan y pris cost.   Rydym yn gwybod bod pryder cynyddol ynglŷn ag argaeledd alcohol rhad a bod cysylltiad clir rhwng alcohol a throsedd ac anrhefn, a dyna pam rydym yn gweithredu i fynd i’r afael a’r mater dyrys hwn.

“Gall rheoli prisiau leihau troseddau treisgar sy’n gysylltiedig ag alcohol, ac mae’r cynlluniau a gyhoeddwyd heddiw yn anfon neges glir i adwerthwyr a’r cyhoedd bod y Llywodraeth yn cymryd y mater hwn o ddifrif.   Yn bwysicach, baich cyfyngedig fydd  gan y cynlluniau hyn  ar fusnes, a gellid  ei gyflawni ar gost isel i’r trethdalwr.   Mae gwerthu alcohol rhad yn arwain at risg uwch o niwed i iechyd a throsedd sy’n gysylltiedig ag alcohol, a dim ond iawn yw ein bod yn mynd i’r afael a’r achosion gwaethaf o ddisgowntio trwm.”

Bydd y mesurau yn rhwystro adwerthwyr rhag gwerthu potel litr o vodka (37 y cant abv) am lai na £10.71 a can 440ml o lager (4.2y cant abv) am lai na £0.38p.

Nodiadau

Gallwch ddod o hyd i adolygiad prisio ac ymchwil cysylltiol y Llywodraeth yn  http://www.homeoffice.gov.uk/drugs/alcohol/alcohol-pricing.

Cyhoeddwyd ar 18 January 2011