Stori newyddion

David Jones AS yn croesawu tîm Gweinidogion newydd Swyddfa Cymru

Mae David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu’r Farwnes Jenny Randerson a Stephen Crabb AS i dim gweinidogion Swyddfa Cymru. Mae…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu’r Farwnes Jenny Randerson a Stephen Crabb AS i dim gweinidogion Swyddfa Cymru.

Mae’r Farwnes Randerson yn ymuno fel Is-ysgrifennydd Seneddol a bydd Mr Crabb yn ymgymryd a dwy rol fel Arglwydd Gomisiynydd Trysorlys EM ac Is-ysgrifennydd Seneddol.

Gan groesawu’r Gweinidogion newydd i dim Swyddfa Cymru, dywedodd Mr Jones: 

“Rwy’n falch dros ben fy mod yn cael croesawu Stephen a Jenny i Swyddfa Cymru. Gyda’u profiad a’u gwybodaeth hanfodol o’r materion dan sylw, rwy’n sicr y byddwn yn llais cryf dros Gymru. 
 
“Ein blaenoriaeth gyntaf fydd ceisio gwella economi Cymru, gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac adrannau eraill Whitehall.”

Mae’r Farwnes Randerson yn byw yng Nghaerdydd ac fe’i penodwyd i Dŷ’r Arglwyddi ym mis Tachwedd 2010, gan gymryd ei sedd ym mis Ionawr 2011. Dyfarnwyd ei harglwyddiaeth iddi yn dilyn 12 mlynedd fel yr Aelod Cynulliad i’r Democratiaid Rhyddfrydol dros Ganol Caerdydd. Yn ystod yr amser hwnnw bu’n gwasanaethu fel Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg rhwng 2000 a 2003 yn Llywodraeth Cymru.

Hi oedd Cadeirydd cyntaf Democratiaid Rhyddfrydol Cymru pan ffurfiwyd y blaid newydd a bu’n aelod o’r Pwyllgor Polisiau Cymreig am nifer o flynyddoedd, yn ogystal ag yn aelod o’r Pwyllgor Polisiau Ffederal. Bu’n gadeirydd ar y Pwyllgor Ymgyrchoedd Cymreig a chyfarwyddodd etholiadau lleol 2004 ac Etholiad Cyffredinol 2005 yng Nghymru.

Magwyd Mr Crabb yn Hwlffordd, ac mae’n Aelod Seneddol dros ei etholaeth gartref, sef Preseli Sir Benfro. Ar ol ffurfio’r Llywodraeth Glymblaid ym Mai 2010, penodwyd Stephen yn un o Chwipiaid Cynorthwyol y Llywodraeth, dyletswydd y bydd yn parhau i’w chyflawni ochr yn ochr a’i rol newydd yn Swyddfa Cymru.

Cyhoeddwyd ar 6 September 2012