Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn cwrdd â Shelter Cymru

Heddiw [dydd Mawrth 3 Awst] bu Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones yn Abertawe yn cwrdd a chynrychiolwyr Shelter Cymru, elusen pobl a chartrefi…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

David Jones yn cwrdd a Shelter CymruHeddiw [dydd Mawrth 3 Awst] bu Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones yn Abertawe yn cwrdd a chynrychiolwyr Shelter Cymru, elusen pobl a chartrefi Cymru, er mwyn trafod ei gwaith a’i nodau ar gyfer mynd i’r afael a digartrefedd yng Nghymru.

Yn dilyn ei gyfarfod gyda chyfarwyddwr Shelter Cymru John Puzey a’i dim yn eu pencadlys yn Heol Walter, dywedodd Mr Jones:  “Mae cyfarfod heddiw wedi rhoi syniad da i mi o waith yr elusen a’r amrywiaeth o faterion sy’n wynebu Shelter Cymru wrth iddynt helpu i fynd i’r afael ag anghenion tai pobl Cymru.  

“Mae Shelter Cymru yn enghraifft wych o fudiad sydd eisoes yn ymgorffori ysbryd ac uchelgais y Gymdeithas Fawr, gan roi grym i bobl helpu eu hunain yn eu cymunedau eu hunain. 

“Trafodwyd prosiectau peilot sydd ar waith ar hyn o bryd i helpu i fynd i’r afael ag anghenion tai fforddiadwy ar gyfer pobl leol mewn ardaloedd gwledig, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Shelter Cymru yn y dyfodol wrth i ni gyflwyno agenda’r Gymdeithas Fawr ledled Cymru.”

Ychwanegodd Mr Jones: “Fel Llywodraeth glymblaid, aethom ati i gydweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd a’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Dai Cynaliadwy yn ei flaen y mis diwethaf. Rwy’n hyderus y bydd Shelter Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Cynulliad yn awr hefyd wrth iddynt ddatblygu polisiau i fynd i’r afael ag anghenion tai penodol pobl yng Nghymru.”

Cyhoeddwyd ar 3 August 2010