David Jones Yn Cwrdd â Dirprwyaeth O Rwsia I Drafod Llwyddiant Yr Iaith Gymraeg
Mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi cwrdd a dirprwyaeth o Rwsia ar eu hymweliad tri diwrnod a’r DU i drafod profiad Cymru o hyrwyddo…
Mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi cwrdd a dirprwyaeth o Rwsia ar eu hymweliad tri diwrnod a’r DU i drafod profiad Cymru o hyrwyddo a datblygu sut defnyddir ieithoedd lleiafrifol.
Roedd y ddirprwyaeth o Rwsia yn cynnwys cynrychiolwyr o Weinyddiaeth Datblygu Rhanbarthol Rwsia, talaith Duma, sefydliadau ymchwil ac aelodau staff Cyngor Ewrop, a chawsant gyfle i gwrdd a’r Gweinidog a’r Gweinidog cyfatebol yn yr Alban yn Swyddfa’r Alban yn Llundain. Nod yr ymweliad a’r DU yw gwella eu gwybodaeth am weithredu Siarter Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol Ewrop yn y DU.
Ac yntau’n siarad ar ol y cyfarfod, dywedodd Mr Jones: “Roedd y cyfarfod yn gyfle da i esbonio i’r ymwelwyr o Rwsia faint yn fwy mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn bywyd bob dydd dros y blynyddoedd diweddar a sut mae Deddf yr Iaith Gymraeg a mentrau megis sefydlu S4C wedi cefnogi hyn. Mae’r ddau beth wedi gwneud cymaint i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw sy’n cael ei defnyddio bob dydd ledled Cymru.
“Mae’r iaith Gymraeg yn chwarae rol bwysig yn niwylliant Cymru ac rwy’n siŵr y bydd y ddirprwyaeth o Rwsia yn dychwelyd adref wedi’u cyfoethogi gan ein profiadau yma yng Nghymru.”