David Jones yn cyfarfod Cymdeithas yr Iaith I drafod S4C
Mae’r Llywodraeth yn gwbl ymroddedig i ddyfodol darlledu yn y Gymraeg ac i S4C - dyma ddywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, wrth aelodau…
Mae’r Llywodraeth yn gwbl ymroddedig i ddyfodol darlledu yn y Gymraeg ac i S4C - dyma ddywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, wrth aelodau Cymdeithas yr Iaith mewn cyfarfod i drafod dyfodol y sianel heddiw [dydd Llun, 1 Tachwedd].
Yn ystod y cyfarfod, ceisiodd Mr Jones ymateb i rai o bryderon Cymdeithas yr Iaith yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynghylch cyllido S4C, gan ddweud y bydd y trefniant newydd yn diogelu dyfodol y sianel.
Ac yntau’n siarad ar ol y cyfarfod, dywedodd Mr Jones: “Roedd hwn yn gyfarfod adeiladol iawn, a rhoddodd gyfle i mi ailadrodd ymrwymiad y Llywodraeth i S4C. Roedd hefyd yn gyfle i geisio ymateb i bryderon Cymdeithas yr Iaith ynglŷn a’r cyhoeddiad diweddar ynghylch cyllido.
“Rydym yn parhau i fod yn llwyr ymroddedig i ddarlledu yn y Gymraeg ac i S4C. Bydd y trefniadau newydd yn diogelu dyfodol y sianel, gan sicrhau y bydd y sianel yn parhau i fod yn endid unigryw ac yn cadw ei hannibyniaeth olygyddol.”