David Jones yn lansio Apêl y Pabi 2010 yng Nghymru
Bydd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones, yn ymuno heddiw [28 Hydref] a milwyr sydd wedi cael profiad diweddar dramor i lansio Apel y …
Bydd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones, yn ymuno heddiw [28 Hydref] a milwyr sydd wedi cael profiad diweddar dramor i lansio Apel y Pabi, a drefnir gan apel y Lleng Brydeinig Frenhinol, yn RAF y Fali ar Ynys Mon.
Bydd apel eleni’n targedu’r ‘genhedlaeth Afghan’ gan ddarparu cymorth i aelodau Lluoedd Arfog Prydain a gafodd eu hanafu wrth wasanaethu yn Afghanistan neu i’r rhai a gollodd anwyliaid yno.
Ac yntau’n siarad cyn y lansio, meddai Mr Jones: “Apel y Pabi yw un o’r ymgyrchoedd mwyaf adnabyddus a llwyddiannus o ran cefnogaeth yn y calendr gan roi cyfle i’r genedl anrhydeddu’r rhai sydd yn, neu sydd wedi, gwasanaethu gyda’n Lluoedd Arfog.
“Mae’r ffocws eleni ar y ‘genhedlaeth Afghan’ yn arbennig o deimladwy wrth i ni ddangos ein parch at y rhai sydd yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn Afghanistan yn amddiffyn y gwerthoedd sydd mor agos at ein calonnau - heddwch a rhyddid. Mae’n anrhydedd yn wir cael rhannu llwyfan gydag aelodau o’r Lluoedd Arfog sy’n cynrychioli’r ‘genhedlaeth Afghan’, sef canolbwynt apel eleni.
“Yn ystod y penwythnos hwn cofir bod 70 mlynedd wedi mynd heibio ers diwedd Brwydr Prydain ac felly mae’n arbennig o briodol fod aelodau o’r Awyrlu’n helpu i lansio’r apel yn RAF y Fali, sydd wedi dod yn rhan mor fawr o’r gymuned yn Ynys Mon dros y blynyddoedd.
”Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn gwneud gwaith ffantastig yn cefnogi aelodau o’n Lluoedd Arfog a’u teuluoedd a bydd yr arian a godir gan apel eleni yn eu galluogi i barhau a’u gwaith caled yn helpu aelodau presennol y lluoedd arfog a chyn-aelodau. Rydym i gyd yn ddyledus iawn i’n Lluoedd Arfog dewr ac rwy’n siŵr y bydd y cyhoedd unwaith eto’n cefnogi’r ymgyrch ac yn dangos eu diolchgarwch i’r rhai sydd wedi aberthu cymaint dros ein gwlad.”