David Jones yn trafod pryderon ffermwyr yn Aberystwyth
Roedd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, yn Aberystwyth heddiw [dydd Iau 3 Chwefror] i drafod y materion sy’n effeithio ar ardaloedd gwledig…
Roedd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, yn Aberystwyth heddiw [dydd Iau 3 Chwefror] i drafod y materion sy’n effeithio ar ardaloedd gwledig yng nghyfarfod Pwyllgor Seneddol a Defnydd Tir Undeb Amaethwyr Cymru.
Gwrandawodd Mr Jones ar bryderon aelodau’r pwyllgor ac amlinellodd yr hyn mae’r Llywodraeth glymblaid yn ei wneud i helpu cymunedau gwledig ledled Cymru a’r DU.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Mr Jones: “Mae’r economi wledig yn hollbwysig i Gymru. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae cymunedau gwledig ledled Cymru wedi teimlo effaith yr amgylchiadau economaidd anodd. Dyna pam ei bod yn hollbwysig bod y Llywodraeth yn gwrando ar y materion sy’n eu hwynebu er mwyn i ni ystyried y ffyrdd gorau o’u helpu. Roeddwn yn falch iawn o gael gwahoddiad i ddod i’r pwyllgor heddiw, ac mae’n sicr wedi rhoi darlun cliriach i mi o rai o’r materion sy’n peri pryder i’r sector.
“Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, mae tasglu Swyddfa Cymru wedi bod yn casglu safbwyntiau ac awgrymiadau ar y materion amrywiol a allai achosi rhwystrau i gymunedau gwledig ledled Cymru, a pha bolisiau y gallai’r Llywodraeth glymblaid ystyried eu rhoi ar waith er mwyn mynd i’r afael a’r rhain. Roedd trafodaethau heddiw yn hynod o ddefnyddiol a byddant yn cael eu rhoi i’r tasglu a fydd yn cyflwyno adroddiad arnynt yn ystod y misoedd nesaf.”