Stori newyddion

David Jones yn llongyfarch the Real Car Company ar ennill Tlws Coffa Tom Pryce

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones wedi llongyfarch The Real Car Company o Fethesda ar ennill Tlws Coffa Tom Pryce, a ddyfernir i unigolion…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones wedi llongyfarch The Real Car Company o Fethesda ar ennill Tlws Coffa Tom Pryce, a ddyfernir i unigolion neu fudiadau am eu cyfraniad i’r sector moduron yng Nghymru.

Rhoddir y Tlws i goffau’r gyrrwr rasio y daeth ei yrfa i ben yn drasig o fyr yn ystod Grand Prix De Affrica yn Kayalami. Hefyd, derbyniodd Mazda Motors Corporation Wobr Cyflawniad Arbennig / Rhagoriaeth mewn Peirianneg i ddathlu 20fed pen blwydd y sbortscar MX5.

Wrth siarad yng Nghinio Ysgrifenwyr Cymreig ar Foduro yn Neuadd Bodysgallen, ger Conwy, meddai Mr Jones: “Rwy’n falch iawn o fod yma i ddathlu dyfarnu Tlws Coffa Tom Pryce i’r Real Car Company. Mae’n bleser gweld bod cwmni a gychwynnodd ar raddfa fach wedi ffynnu ac wedi mynd ymlaen i ennill y wobr glodfawr hon.

“Mae gan Ogledd Cymru hanes hir o lwyddiant ym maes chwaraeon modur ac yn y diwydiant ei hun. O Tom Pryce, a oedd a’r potensial i ddod yn un o enwau mawr rasio ceir; John Godfrey Parry Thomas, peiriannydd a gyrrwr a fu ar un adeg yn dal y Record Cyflymder ar Dir; i David Richards CBE, sylfaenydd Pro-drive a chadeirydd Austin Martin - does dim amheuaeth am gyfoeth y dalent. Ac mae cwmniau rhyngwladol mawr fel Toyota wedi sylweddoli’r cryfderau a’r sgiliau sydd ar gynnig yng Ngogledd Cymru, gyda ffatri’r cwmni ar Lannau Dyfrdwy yn adeiladu peiriannau ecogyfeillgar.

“Boed yn fusnesau bach fel y Real Car Company neu gwmniau rhyngwladol fel Toyota, mae gan Gymru lawer iawn i’w gynnig. Fel Llywodraeth, fe wnawn bopeth a allwn i annog buddsoddi a chreu hinsawdd a fydd yn cynorthwyo busnesau i ffynnu. Llongyfarchiadau i’r Real Car Company a Mazda ar eu llwyddiant.”

Cyhoeddwyd ar 22 November 2010