Datganiad i'r wasg

David Jones yn cefnogi economi Gogledd Cymru

Heddiw, rhoddodd David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, sicrwydd i Aelodau Seneddol y byddai’r Llywodraeth Glymblaid yn gwneud popeth …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, rhoddodd David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, sicrwydd i Aelodau Seneddol y byddai’r Llywodraeth Glymblaid yn gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi economi Gogledd Cymru ac y byddai Swyddfa Cymru yn parhau i ddadlau o blaid cael gorsaf niwclear newydd yn Wylfa. 

Yn ystod dadl yn Neuadd San Steffan ar economi Gogledd Cymru, cymeradwyodd Mr Jones AS Ynys Mon, Albert Owen, am ei ymdrechion i greu ‘ynys ynni’ ar Ynys Mon.  __

Dywedodd Mr Jones: “Mae’r dirwasgiad hwn wedi cael cryn effaith ar economi Gogledd Cymru, gyda nifer fawr o gwmniau’n cau neu’n diswyddo gweithwyr yn yr ardal. Yn wir, mae gormod o gwmniau mawr wedi gadael Gogledd Cymru yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan fynd a swyddi a bywoliaeth gormod o bobl gyda nhw.  Fodd bynnag, nid Gogledd Cymru’n unig sydd wedi dioddef; mae hyn wedi digwydd drwy’r wlad.

“Fel yr ydym wedi’i ddweud dro ar ol tro, mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i adfywio economi’r DU, nid lleihau’r diffyg yn unig. Drwy annog twf yn y sector preifat, a mynd ati ar yr un pryd i fod yn llai dibynnol ar y sector cyhoeddus, gallwn sicrhau adferiad yn y tymor hir.

“Gallai hyrwyddo Ynys Mon fel ‘Ynys Ynni’ ddenu buddsoddiad disgwyliedig o £2.3 biliwn dros y bymtheg mlynedd nesaf. Byddai’r datblygiad posib yn Wylfa, a fyddai’n werth biliynau o bunnoedd, ynddo’i hun yn cynnig oddeutu 800 o swyddi parhaol ac oddeutu 5,000 yn ystod y gwaith adeiladu.”

Ychwanegodd Mr Jones: “Mae dirwasgiad y DU wedi gadael dros 120,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru, gyda 72,500 yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith - cynnydd o dros 30,000 mewn dim ond dwy flynedd. Ond ni ellir gadael y bobl hynny sy’n iach i weithio ar fudd-daliadau. Ni fydd economi Gogledd Cymru yn dechrau dod ati’i hun os oes miloedd o weithwyr posib yn ddibynnol ar fudd-daliadau a heb ffordd o ddod oddi arnynt. 

“Mae’r Llywodraeth Glymblaid wedi ymrwymo i sicrhau bod y DU gyfan yn elwa o’r mesurau a gyhoeddwyd yn y Gyllideb yr wythnos diwethaf. Ni wnaethpwyd fawr ddim o gynnydd o ran gwella economi Gogledd Cymru dros y degawd diwethaf, ac ni ellir caniatau i hyn barhau. Rydym am annog mewnfuddsoddi a thwf y sector preifat er mwyn i Ogledd Cymru, a gweddill y DU, fwynhau dyfodol llewyrchus a llwyddiannus.”

Cyhoeddwyd ar 29 June 2010