Stori newyddion

Trefniadau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd ar ddiwrnod Angladd y Frenhines

Yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines, trefniadau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd ar ddiwrnod yr Angladd a mynediad at lyfrau cydymdeimlo.

Ni fydd y rhan fwyaf o wrandawiadau yn cael eu cynnal ddydd Llun y 19eg o Fedi 2022, yn dilyn y cyhoeddiad mai ar y diwrnod hwnnw y cynhelir angladd Ei Mawrhydi y Frenhines ac y bydd yn ddiwrnod o wyliau cenedlaethol.

Fodd bynnag, fel y cytunwyd eisoes, bydd gwrandawiadau brys, gan gynnwys achosion lle cedwir diffynnydd yn y ddalfa dros nos, yn dal i gael eu cynnal mewn ymgynghoriad â’r farnwriaeth. Lle bo modd, ac mewn ymgynghoriad â’r aelodau perthnasol o’r farnwriaeth, byddwn yn ceisio rhestru’r gwrandawiadau hynny bob ochr i’r angladd.

Byddwn yn gohirio achosion lle mae diffynyddion wedi cael eu cadw yn y ddalfa i ymddangos yn y llys ar ddiwrnod yr angladd tan y dyddiad nesaf sydd ar gael. Byddwn yn cysylltu â phob parti ac yn eu hysbysu am ddyddiad a lleoliad newydd y gwrandawiad. Bydd ein holl safleoedd, oddieithr lle cynhelir gwrandawiadau brys, ar gau i’r cyhoedd fel arwydd o barch, yn cynnwys y Llysoedd Barn Brenhinol, Llysoedd y Goron, y Llysoedd Sirol, y Llysoedd Sifil a Theulu, y llysoedd ynadon, y tribiwnlysoedd, y canolfannau busnes a’r canolfannau gwasanaeth.

Gall holl ddefnyddwyr y llysoedd a’r tribiwnlysoedd ddefnyddio llyfr cydymdeimlo ar-lein y Teulu Brenhinol.

Rhagor o wybodaeth

Gweler y canllawiau i’r cyhoedd a busnesau ar y cyfnod Alaru Cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines.

Dod o hyd i’r newyddion diweddaraf gan y Teulu Brenhinol.

Defnyddiwch ein Gwasanaeth chwilio am Lys neu Dribiwnlys i ddod o hyd i lys neu dribiwnlys yng Nghymru a Lloegr.

Cyhoeddwyd ar 12 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 September 2022 + show all updates
  1. Clarification on court closures on Monday 19 September.

  2. First published.