Stori newyddion

Mae'r cynllun ad-dalu ffioedd llys bellach yn weithredol

Mae’r cynllun bellach yn weithredol i unrhyw un sy'n credu ei fod wedi talu gormod am rai gwasanaethau llys rhwng Ebrill 2014 a Mawrth 2018.

Mae hyn yn dilyn adolygiad yn 2018, a ganfu fod ffioedd mewn rhai achosion wedi eu gosod yn anfwriadol uwchben y gost ac yn cyflawni [bwriad y Llywodraeth i ad-dalu unrhyw un yr oedd arian yn ddyledus iddo]. (https://www.parliament.uk/business/publications/written-questions-answers-statements/written-statement/Commons/2018-07-04/HCWS830/). Mae’r cynllun ad-dalu hefyd yn cynnwys ffioedd penodol lle mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi codi ffi anghywir ar rywun - naill ai pan godwyd y ffi anghywir neu pan gymhwyswyd y ffi anghywir.

Fel rhan o’n gwelliannau parhaus i’r system gyfiawnder, byddwn yn parhau i adolygu lefel pennu ffioedd llys yn flynyddol, gan gynnwys y fethodoleg ar gyfer pennu’r ffioedd hynny, er mwyn lleihau’r risg o’r mater hwn yn digwydd eto yn y dyfodol.

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am yr achosion yr effeithir arnynt a sut i wneud cais ar dudalen ganllaw GOV.UK.

Cyhoeddwyd ar 16 January 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 March 2020 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.