Canllawiau

Hawlio ad-daliad o ffi’r llys

Canllawiau a ffurflen wrth wneud cais am ad-daliad o ffioedd llys. Llenwch y ffurflen ar-lein a'i hanfon drwy e-bost atom, neu ei hargraffu a’i hanfon atom drwy'r post.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi lansio cynllun ad-dalu ffioedd llys am ein bod wedi gweld:

  • Eich bod wedi talu gormod: hynny yw, mae’r ffi a godwyd yn uwch na chost y gwasanaeth; a/neu
  • Eich bod wedi talu’r ffi anghywir: Hynny yw, rydym wedi codi’r ffi anghywir neu ni ddylem fod wedi codi tâl arnoch o gwbl.

Bydd y cynllun ad-daliad nawr yn cynnwys ad-daliadau ar gyfer ffioedd cyhoeddi hawliadau rhan 8 anaf personol gwerth isel, ffioedd copi, ac ad-daliadau a nodwyd gan yr asesiad adennill costau diweddaraf (am y cyfnod rhwng Ebrill 2014 i Gorffennaf 2018).

Yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus digynsail hwn, rydym yn canolbwyntio ar waith â blaenoriaeth a newid arferion gwaith i gadw ein system gyfiawnder hanfodol i weithredu. Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau am y cynllun ad-daliad, ond am gyfnod dros dro gall gymryd mwy o amser nag arfer i ni brosesu’ch cais. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra. Gall amseroedd aros am alwadau fod yn hirach na’r disgwyl. Byddem yn annog ymgeiswyr i gysylltu trwy e-bost yn y lle cyntaf.

Dogfennau

Mae ein canllaw wedi’i ddiwygio i gynnwys ffioedd newydd. Ar gyfer hawliadau Cam 3 Rhan 8, defnyddiwch y ffurflen gais a’r canllaw penodol Rhan 8.

Pwy all hawlio

Ni allwch hawlio ad-daliad ond os:

  • gwnaethoch dalu’r ffi yn syth i’r llys
  • gwnaeth rhywun hawliad yn eich erbyn ac y gorchmynnwyd i chi dalu ei ffioedd.

Ni allwch hawlio ad-daliad ond os cyfeirir at eich amgylchiadau a’r ffi a dalwyd gennych yn y ddogfen ganllaw uchod. Fel y dywedir yn y ddogfen ganllaw, nodwyd bod 16 o ffioedd yn rhai lle codwyd yn anfwriadol - gan gynnwys rhai ffioedd ar gyfer llysoedd ynadon, achosion ansolfedd, achosion sifil ac ar gyfer y Llys Gwarchod. Mae 3 ffi pellach wedi eu nodi fel rhai lle codwyd ffi anghywir yn y llysoedd ynadon, achosion sifil a’r Llys Gwarchod.

Yr hyn y bydd angen i chi ei hawlio

Mae’n rhaid i chi wneud cais am ad-daliad gan ddefnyddio’r ffurflen a elwir yn ‘cais am ad-daliad llawn neu rannol o ffioedd llys’.

Rhaid defnyddio’r ffurflen hon i gyflwyno pob cais.

Efallai na fydd gofyn i chi lenwi’r ffurflen i gyd. Darllenwch bob adran yn ofalus a gwnewch yn siŵr eich bod yn ateb pob cwestiwn sy’n berthnasol i chi. Os caiff rhai o’r meysydd gofynnol eu gadael yn wag, gallai achosi oedi ac efallai y bydd yn rhaid i chi anfon ffurflen newydd.

Ffurflen i’w llenwi ar sgrin

Gallwch lenwi’r ffurflen hon a’i chadw gan ddefnyddio Adobe Reader XI. Os byddwch yn ei chadw ar eich cyfrifiadur, gallwch fynd yn ôl ati eto.

I ddefnyddio’r PDF rhyngweithiol hwn dylech:

  1. ei chadw ar eich cyfrifiadur
  2. ei llenwi
  3. ei chadw ar eich cyfrifiadur a’i hanfon fel atodiad mewn neges e-bost gydag unrhyw dystiolaeth, neu argraffu’r ffurflen wedi’i llenwi a’i phostio gyda’ch tystiolaeth

Ffurflen i’w llenwi â beiro

I ddefnyddio’r PDF hwn dylech:

  1. argraffu’r ffurflen
  2. ei llenwi â beiro
  3. ei llofnodi
  4. ei hanfon drwy’r post gyda’ch tystiolaeth

Dogfennau y bydd angen i chi eu darparu

Os yw eich manylion cyswllt wedi newid ers talu ffi’r llys, bydd angen i chi anfon tystiolaeth o’ch:

  • enw
  • cyfeiriad
  • hawl i wneud cais (os nad chi yw’r cleient)

Gallwch anfon dogfennau wedi’u sganio a’u llungopïo.

Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol oni bai ein bod yn gofyn yn benodol am y rhain gennych.

Dyma enghreifftiau o dystiolaeth derbyniol:

  • datganiad banc
  • bil cyfleustodau
  • pasbort
  • trwydded yrru
  • tystysgrif priodas
  • Dyfarniad Absoliwt (os ydych wedi newid yn ôl i’ch enw morwynol)
  • Tystysgrif Marwolaeth
  • Gweithred newid enw

Gwneud cais drwy e-bost

Anfonwch y ffurflen a’r dystiolaeth i: Civil_Refunds@justice.gov.uk

Bydd angen i chi atodi copïau wedi’u sganio neu ffotograffau clir o ddogfennau gwreiddiol. Cyfyngir maint e-byst i 10MB ond gallwch anfon mwy nag un e-bost.

Ysgrifennwch ‘cais am ad-daliad ffioedd sifil’ yn y blwch pwnc.

Gwneud cais drwy’r post

Anfonwch y ffurflen a’r dystiolaeth drwy’r post i:

HMCTS
PO Box 8793
Leicester
LE1 8BN

Cymorth a fformatiau amgen

Anfonwch e-bost neu ffoniwch ni i ofyn am:

  • gopi o bob ffurflen
  • fformatau amgen – Braille, print bras neu CD

Os ydych yn anfon e-bost atom i gael cymorth, cofiwch gynnwys:

  • enw’r ffurflen y mae arnoch ei heisiau
  • eich enw
  • eich cyfeiriad
  • eich rhif ffôn

Ar ôl i chi wneud hawliad

Cewch wybod drwy e-bost neu lythyr:

  • os oes unrhyw wybodaeth ar goll
  • a yw eich cais yn llwyddiannus
  • swm yr ad-daliad a phryd y caiff ei dalu
  • y rhesymau dros unrhyw wrthodiad

Pryd y byddwch yn cael yr ad-daliad

Byddwn yn ceisio prosesu eich cais ymhen 20 diwrnod gwaith o’r diwrnod y byddwn yn derbyn eich ffurflen.

Bydd yr hysbysiad talu yn cael ei anfon fel e-bost ‘do not reply’ gan ein darparwr, Liberata. Bydd yn ymddangos fel: ‘auto.reporting@liberata.com’. Gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y cyfeiriad e-bost hwn fel ‘safe sender’ i wneud yn siŵr y bydd yr e-bost yn eich cyrraedd (os na fydd wedi eich cyrraedd, gwiriwch eich ffolder junk).

Cysylltu â ni

E-bost

civil_refunds@justice.gov.uk

Ein nod yw ymateb ymhen 5 niwrnod gwaith.

Gwybodaeth Bersonol

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch chi. Rydym wedi ymrwymo i drin a diogelu eich gwybodaeth bersonol yn gyfrifol.

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac yn cael ei warchod yn y gyfraith gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a’r Ddeddf Diogelu Data 2018.

Efallai y bydd yr wybodaeth bersonol y byddwch yn ei hanfon atom yn cael ei defnyddio mewn ffyrdd gwahanol. Er enghraifft:

  • i atal twyll
  • i wirio a ydych yn gallu hawlio ad-daliad

Bydd GLlTEM yn gwirio peth o’r wybodaeth a roddwyd gennych fel rhan o’r cais hwn. Byddwn yn defnyddio asiantaeth gwirio credyd. Bydd y gwiriad hwn yn ymddangos ar eich hanes credyd. Ni fydd benthycwyr yn ei weld. Ni fydd yn cael effaith ar eich statws credyd.

Gweler y safonau rydym yn eu dilyn wrth brosesu eich data

I dderbyn copi papur o’r hysbysiad preifatrwydd hwn:
ffoniwch 0300 123 1024
Ffôn testun 18001 0300 123 1024.

Os ydych yn ffonio o’r Alban:
ffoniwch 0300 790 6234
Ffôn testun 18001 0300 790 6234.

Cyhoeddwyd ar 16 January 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 May 2023 + show all updates
  1. Removed phone number from contact us block

  2. Added translation

  3. Updated Refund scheme guidance pdf

  4. Deleted Welsh language document (Canllawiau ad-daliad ffioedd Cam 3 Anaf Personol Gwerth Isel (LVPI) Rhan 8) as it is no longer accurate.

  5. Uploaded a revised version of the Low Value Personal Injury (LVPI) Part 8 Stage 3 fees refund guidance PDF to the Documents section and deleted the Welsh version which is no longer accurate.

  6. Guidance updated to include part 8 claims. Forms updated.

  7. Temp message of coronavirus outbreak on refund scheme.

  8. Added translation

  9. First published.