Datganiad i'r wasg

Cyfri’r dyddiau cyn i fand eang cyflym fod ar gael i bawb

Bydd gan trigolion Cymru hawl gyfreithiol i gysylltiad fforddiadwy o leiaf 10 Mbps

Mae cysylltedd band eang cyflym wedi dod un cam yn nes heddiw ar gyfer y DU gyfan, yn dilyn creu deddfwriaeth sy’n llunio’r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol (USO) ar gyfer band eang.

Mae gan Ofcom yn awr hyd at 2 flynedd i weithredu’r cynllun, sy’n golygu erbyn 2020, y bydd gan bawb yn y DU hawl gyfreithiol i gael cysylltiad fforddiadwy o hyd at 10Mbps, gan ddarparwyr dynodedig, lle bynnag y maen nhw’n byw neu’n gweithio, hyd at drothwy cost rhesymol.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae sicrhau mynediad at fand eang cyflym, dibynadwy yn un o’r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud i gefnogi ein cymunedau gwledig a’n busnesau yng Nghymru.

Mae’r sector digidol wedi bod yn rhan annatod o economi Cymru ac mae twf cyflym llawer o fusnesau digidol yn golygu bod mynediad dibynadwy a chyflym i fand eang yn hanfodol ym mhob cymuned yng Nghymru. Mae’r ymrwymiad newydd hwn yn golygu y bydd gan breswylwyr yr hawl i o leiaf 10Mbps lle bynnag y maen nhw’n byw yng Nghymru.

Mae gwella cysylltedd ar gyfer cartrefi a busnesau yn ganolog i ymdrechion y Llywodraeth hon i gryfhau’r economi yng Nghymru, ac mae cyhoeddiad heddiw yn golygu y gall pawb ddisgwyl yn gyfreithiol dderbyn lefel isafswm o wasanaeth gan eu darparwyr, lle bynnag y maen nhw’n byw.

Dywedodd Margot James, y Gweinidog Digidol:

Yn yr unfed ganrif ar hugain, nid yw cael mynediad at y rhyngrwyd yn foethusrwydd, mae’n anghenraid, Rydym ni yn adeiladu Prydain sy’n addas ar gyfer y dyfodol, ac rydym ni yn awr yn rhoi band eang cyflym ar yr un sylfaen â gwasanaethau hanfodol eraill, fel dŵr a llinellau ffôn.

Mae’r Llywodraeth yn credu mai USO rheoleiddiol yn unig sy’n cynnig sicrwydd digonol a gorfodadwyedd cyfreithiol sydd ei angen er mwyn sicrhau mynediad at fand eang cyflym i’r DU gyfan erbyn 2020. Eisoes, mae gan 95% o’r DU fynediad at fand eang cyflym iawn, a bydd yr USO yn darparu “rhwyd diogelwch ddigidol” i’r rhai hynny sy’n byw yn y lleoedd mwyaf anghysbell ac anodd eu cyrraedd.

Mae’r fanyleb ar gyfer y cynllun USO yn cynnwys:

  • Cyflymder llawrlwytho o 10Mbps o leiaf, gyda gofynion ansawdd ar gyfer cyflymder lanlwytho, ymatebolrwydd y cysylltiadau, a’r cap data; gellid cyflawni hyn drwy amrediad o dechnolegau llinell sefydlog a di-wifr;
  • Cost trothwy fesul adeilad o £3,400, sy’n galluogi gwasanaeth ar gyfer oddeutu 99.8% o’r adeiladau. Bydd defnyddwyr y tu allan i‘r trothwy hwn yn gallu cael cysylltiad lloeren, neu byddan nhw’n cael y dewis i dalu am y gweddil eu hunain (yn yr un ffordd â mae’r hawl gwasanaeth cyffredinol i gael teleffon llinell dir yn gweithio);
  • Angen i gydgasglu’r galw, fel bod pobl o fewn ardal yn gallu cyfuno eu trothwyon cost fesul adeilad, er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl sy’n dymuno cysylltu yn cael eu cysylltu;
  • Iddo fod yn cael ei gyllido gan ddiwydiant yn hytrach nag arian cyhoeddus;* Prisio unffurf fel na fydd y rhai sydd wedi cael eu cysylltu o dan yr USO yn gorfod talu mwy am wasanaethau tebyg i ddefnyddwyr sy’n cael eu gwasanaethu yn fasnachol.

Er y bydd cyflymder isafswm yr USO ar y cychwyn yn cael ei osod ar o leiaf 10Mbps, bydd hwn yn cael ei adolygu a disgwyliwn iddo gynyddu ymhen amser. Mae Ofcom wedi cynghori mai 10Mbps yw’r cyflymder sydd ei angen ar gyfer defnydd cartref nodweddiadol o fynediad rhyngrwyd i wasanaethau fel pori’r we a gwasanaethau e-bost a fideo.

Mae’r Llywodraeth ac OFCOM yn awr yn gweithio i sefydlu nifer o brosesau i weithredu’r USO cyn gynted ag sy’n bosibl. Mae hyn yn cynnwys rhedeg proses i ddynodi’r darparwr (darparwyr) gwasanaeth cyffredinol a fydd ei angen er mwyn cynnig y gwasanaeth, gan roi cyfle i ddarparwyr bychain a rhai mawr roi eu henwau gerbron ar gyfer cael eu hystyried. Yn ogystal, bydd OFCOM yn gyfrifol am sefydlu cronfa ddiwydiant a fydd yn cefnogi cyflawni’r cysylltiadau a wnaed o dan yr USO.

Yn dilyn creu’r pwerau newydd pan basiwyd Deddf yr Economi Ddigidol 2017 gan y Llywodraeth, ymgynghorodd y Llywodraeth ynglŷn â llunio’r USO. Mae’r ymateb manwl i’r ymgynghoriad hwn hefyd wedi cael ei gyhoeddi heddiw.

DIWEDD

Nodiadau ar gyfer Golygyddion

  • Mae adroddiad Cenhedloedd Cysylltiedig Ofcom 2017 yn dangos bod nifer o adeiladau heb fand eang gyda chyflymderau lawrlwytho o 10Mbps a chyflymderau lanlwytho o 1Mbps yn 1.1 miliwn, neu 4% o adeiladau, o’i gymharu â 1.6 miliwn neu 6% o adeiladau yn 2016.

  • Bydd y darparwr dynodedig o dan rwymedigaeth statudol i gysylltu pobl hyd at y gost trothwy, a’u cysylltu nhw os ydyn nhw’n fodlon talu’r costau ychwanegol yn uwch na’r trothwy.

Cyhoeddwyd ar 28 March 2018