Datganiad i'r wasg

Diwrnod y Lluoedd Arfog 2014 yn prysur agosáu

Gweinidogion Swyddfa Cymru yn ‘Dangos eu Cefnogaeth’ yn nathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Armed Forces Day 2014

Bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru yn anrhydeddu ymrwymiad ac aberth milwyr Cymru, yn filwyr o’r gorffennol a’r presennol, wrth iddynt fynychu dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Wrecsam ac yng Nghaerdydd.

O luoedd y rheng flaen a’u teuluoedd i gyn-filwyr a’r Lluoedd Cadéts, bydd cymuned y Lluoedd Arfog wrth galon cyfres o ddigwyddiadau ar hyd a lled y wlad i nodi’r ymrwymiad i’r genedl gan y rhai sydd yn y Gwasanaethau.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS, yn mynychu diwrnod dathlu Lluoedd Arfog Gogledd Cymru yn Wrecsam ar 21 Fehefin.

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS, yn mynychu’r digwyddiad cenedlaethol yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 28 Mehefin, a fydd yn cynnwys arddangosfeydd awyr a Gorymdaith draddodiadol y Cyn-filwyr a’r Gwasanaeth Awyr Agored.

Dywedodd David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rydw i’n falch iawn o gael y cyfle i fynychu Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Ngogledd Cymru. Ynys Môn yw cartref RAF y Fali, canolfan gyda’r orau yn y byd ar gyfer awyrennau’r fyddin, sy’n gwneud cyfraniad hanfodol at amddiffyn yn y DU – rhywbeth sy’n cael ei gydnabod gan y nifer o wledydd sy’n anfon eu peilotiaid yno i’w hyfforddi. Ac mae Wrecsam hefyd wedi mwynhau cyswllt ers 200 mlynedd â’r Cwmni Brenhinol Cymreig ym Marics Hightown.

Wrth i Gymru baratoi ar gyfer cynnal Uwchgynhadledd NATO fis Medi eleni, mae heddiw’n gyfle arall i dynnu sylw at draddodiad milwrol gwych Cymru a sgiliau ac arbenigedd ein sector amddiffyn. Mae gennym ddyled aruthrol i’r rhai sy’n gweithio’n ddiflino, o dan amgylchiadau anodd yn aml, er mwyn amddiffyn ein gwerthoedd a’n ffordd o fyw.

Dywedodd Stephen Crabb AS, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i bobl Cymru ddangos eu gwerthfawrogiad o’r gwaith y mae ein personél gwasanaethu’n ei wneud.

Mae milwyr Cymru wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol at ymgyrchoedd ym mhob cwr o’r byd. Yn ddiweddar, mae unedau a milwyr wrth gefn o Gymru wedi cael eu hanfon ac wedi gwasanaethu mewn ymgyrchoedd yn Irac ac yn Afghanistan.

O’r rhai sy’n gwasanaethu ar y rheng flaen i’w teuluoedd a’u hanwyliaid sy’n darparu cefnogaeth hanfodol gartref, ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog rydym yn coffau ac yn dangos ein cefnogaeth i aberth ein cymuned gyfan o Luoedd Arfog.

Nodiadau i olygyddion

  • Bydd baner Diwrnod y Lluoedd Arfog yn hedfan uwch ben Tŷ Gwydyr yn Whitehall rhwng 23 a 30 Mehefin er mwyn nodi’r chweched diwrnod blynyddol hwn i ddathlu cyfraniad y Lluoedd Arfog.

  • Mae dinas Stirling yn yr Alban wedi cael ei chyhoeddi fel prif ddinas Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni.

Cyhoeddwyd ar 20 June 2014