Y Cyngor yn meithrin ymdeimlad o fenter yn Sir Fynwy meddai Gweinidog Swyddfa Cymru
Mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi canmol awdurdod lleol yng Nghymru am ddod a busnesau at ei gilydd yn ei ardal. Roedd Mr Jones…
Mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi canmol awdurdod lleol yng Nghymru am ddod a busnesau at ei gilydd yn ei ardal.
Roedd Mr Jones yn siarad yn lansiad wythnos ‘Back2Business’ yng Nghae Ras Cas-Gwent, digwyddiad wedi’i drefnu gan Gyngor Sir Fynwy i gefnogi datblygiad busnesau a chyfleoedd buddsoddi ledled y sir.
Dywedodd Mr Jones: “Mae wythnos Back2Business yn ddigwyddiad arloesol sy’n dangos yr hyn sydd gan Sir Fynwy i’w gynnig yng nghyswllt arbenigedd, cymorth i fusnesau a gweithlu medrus o safon uchel. Mae Sir Fynwy i’w llongyfarch am weithredu fel catalydd ar gyfer datblygu economaidd yn y rhan bwysig hon o Gymru sydd mewn lleoliad strategol arbennig.
“Mae’r Llywodraeth yn ymdrechu i ysgogi twf yn y sector preifat er mwyn sicrhau adfywiad economaidd drwy lai o reoleiddio, cymorth i fusnesau a system drethu ffafriol.
“Busnesau bach yw asgwrn cefn yr economi yng Nghymru ac mae angen i ni sicrhau bod yr amodau cywir ar gyfer eu twf yn eu lle er mwyn iddynt wireddu eu potensial yn llawn.
“Pleser o’r mwyaf i mi yw gweld Cyngor Sir Fynwy yn datblygu’r agenda hon yn lleol.”
Nodiadau i Olygyddion:
1.) Mae’r Llywodraeth wedi rhoi nifer o fesurau ariannol ar waith i helpu busnesau ehangu a thyfu, gan gynnwys gostyngiad o 2% yn y dreth gorfforaeth, ymestyn y cyfyngiad ar oes enillion sy’n gymwys i gael Rhyddhad Entrepreneuriaid, o £5 miliwn i £10 miliwn a diwygio’r cynllun credydau treth Ymchwil a Datblygu, gyda’r gyfradd ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig eu maint yn cynyddu i 200% o fis Ebrill 2011 ymlaen ac i 225% o fis Ebrill 2012 ymlaen.
2) Mae’r strategaeth ‘Prydain ar agor i Fusnes’ yn dangos sut y bydd Masnach a Buddsoddi y DU a phartneriaid eraill yn meithrin cysylltiadau strategol a llunwyr penderfyniadau ym maes cyfalaf menter, yn atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng clystyrau technoleg tramor ac yn gweithio gyda phartneriaid cyflenwi, megis y Bwrdd Strategaeth Technoleg, er mwyn ysgogi diddordeb a dangos bod y DU yn lle gwych i leoli busnes. Gellir gweld strategaeth ‘Prydain ar agor i Fusnes’ yma:
3.) I gael rhagor o wybodaeth am wythnos Back2Business, cliciwch yma.