Gostyngiad parhaus mewn diweithdra yng Nghymru yn cael ei groesawu gan Cheryl Gillan
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu’r gostyngiad parhaus mewn diweithdra ac anweithgarwch economaidd yng Nghymru. …
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu’r gostyngiad parhaus mewn diweithdra ac anweithgarwch economaidd yng Nghymru.
Dengys ffigyrau diweddaraf, a gyhoeddwyd heddiw, fod cyfradd diweithdra yng Nghymru o fis Mawrth i fis Mai wedi disgyn 0.6 y cant ers y chwarter diwethaf i 7.9 y cant. Bu i’r lefel ddiweithdra hefyd ddisgyn 9,000 ers y chwarter diwethaf i 115,00.
Yn y cyfamser, roedd lefel anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 483,000, gostyngiad o 3,000 ers y chwarter diwethaf. Cynyddodd y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru 0.6 y cant i 68.5 y cant - yr un lefel a Llundain.
Wrth groesawu’r ystadegau, dywedodd Mrs Gillan: “Mae cyflogaeth yng Nghymru yn parhau ar y trywydd iawn. Dengys bod polisiau’r Llywodraeth i greu’r amodau iawn ar gyfer datblygu busnesau a chreu swyddi yn cael mwy o bobl yn ol i waith yng Nghymru, tra dengys ein diwygiadau lles fod gwaith yn talu.
“Ond ni allwn laesu dwylo. Dyna pam y daeth y Cabinet i Gymru’r wythnos hon, i wrando ar sut y gallwn ni roi mwy o gefnogaeth i fentrau a busnesau newydd yng Nghymru.
” Y brif flaenoriaeth yw rhoi hwb i dwf economaidd yng Nghymru er mwyn creu mwy o swyddi yn y sector preifat. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau dyfodol economaidd llewyrchus fel bo diweithdra ac anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn parhau i ddisgyn.”
Ychwanegodd Mrs Gillan: “Bydd buddsoddiadau mewn seilwaith, megis y £57miliwn a gyhoeddwyd yr wythnos hon ar gyfer gwelliannau band eang yng Nghymru, a’r £1biliwn i drydaneiddio’r brif reilffordd rhwng Llundain a De Cymru, yn sicrhau bod gan Gymru’r offer a’r seilwaith angenrheidiol ar gyfer tyfu a llwyddo.”