Stori newyddion

Budd Gemau Olympaidd 2012 i’r Busnes Adeiladu

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan wedi croesawu’r adroddiad a gyhoeddwyd ddoe gan yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt. Ynddo mae…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan wedi croesawu’r adroddiad a gyhoeddwyd ddoe gan yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt. Ynddo mae’n gofyn i gadeirydd Awdurdod Gweithredu’r Gemau Olympaidd, Syr John Armitt, lunio cynllun gweithredu i rannu’r gwersi a ddaw yn sgil rhaglen adeiladu’r Parc Olympaidd, sy’n dilyn yr amserlen ac o fewn y gyllideb.

Mae cwmniau o Gymru wedi llwyddo i ennill contractau busnes mawr gan Awdurdod Gweithredu’r Gemau Olympaidd, a hynny ar gyfer amrywiol brosiectau dylunio ac adeiladu ar gyfer y gemau. Yn yr adroddiad hwn, ystyrir bod prosiect y Parc Olympaidd yn dempled ar gyfer cyflawni prosiectau adeiladu mawr a rhannu gwersi llwyddiant i gefnogi busnesau o Brydain i ennill mwy o gontractau proffidiol yma a thramor.

Dywedodd Mrs Gillan: “Rwy’n meddwl y bydd yr adroddiad hwn yn bwysig i fusnesau ledled y DU. Mae dysgu a rhannu profiadau pwysig a ddaw yn sgil adeiladu safleoedd Olympaidd yn rhan o waddol economaidd hirdymor 2012 a bydd yn helpu i greu rhagor o gyfleoedd i’w datblygu a’u meithrin ym mhob cwr o’r byd.”

Cyhoeddwyd ar 16 February 2012