Datganiad i'r wasg

Ni fydd y Mesur Diwygio Cyfansoddiadol yn rhoi mwy o Rym i’r Cynulliad Cenedlaethol, meddai David Jones

Yn ol David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, ar ol ail-lunio etholaethau seneddol i’w gwneud yn decach, bydd gan Gymru lais cryf o hyd yn San…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Yn ol David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, ar ol ail-lunio etholaethau seneddol i’w gwneud yn decach, bydd gan Gymru lais cryf o hyd yn San Steffan a bydd ganddi’r un lefel o gynrychiolaeth a llefydd eraill yn y DU.

Wrth siarad yn ystod y Sesiwn Cwestiynau i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, meddai Mr Jones y byddai cynlluniau diwygio cyfansoddiadol arfaethedig y Llywodraeth yn sicrhau cydraddoldeb a thegwch ar draws y Deyrnas Unedig gan sicrhau nad yw un bleidlais yn werth mwy nag un arall mewn rhan arall o’r wlad.

Meddai: “Bydd gan bobl Cymru yr un lefel o gynrychiolaeth yn San Steffan ag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig a bydd gan Gymru lais cryf o hyd yn San Steffan drwy eu Haelodau Seneddol.

“Nid yw’r ffaith y bydd llai o Aelodau Seneddol yng Nghymru’n golygu y bydd y Cynulliad Cenedlaethol rywsut neu’i gilydd yn cael fwy o rymoedd. Ni fydd y Mesur System Bleidleisio Seneddol a’r Etholaethau yn effeithio ar rymoedd y Cynulliad mewn unrhyw ffordd a byddant yn aros yr un fath, fel y nodir yn glir dan Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.”

Roedd Mr Jones am ymuno a Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, a Mark Haper, y Gweinidog dros Ddiwygio Cyfansoddiadol, yn nes ymlaen y prynhawn yma i gyfarfod a grŵp trawsbleidiol o ASau Cymru i drafod goblygiadau’r Mesur yng Nghymru.

Cyhoeddwyd ar 8 September 2010