Stori newyddion

Tŷ’r Cwmnïau ar restr fer yng Ngwobrau Gwasanaeth Sifil y DU 2018

Rydym yn falch o gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr iechyd a lles.

Companies House team at awards ceremony

Eleni cynhaliwyd Gwobrau’r Gwasanaeth Sifil ar ddydd Iau 8 Tachwedd. Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod ac yn dathlu unigolion a thimau sy’n ysbrydoli eraill ar draws y llywodraeth.

Mae lles ein cydweithwyr yn flaenoriaeth i ni erioed.

Roeddem yn pryderu wrth weld cyfraddau absenoldeb gweithwyr yn cynyddu ym mis Tachwedd 2017. Prif achos absenoldeb oedd problemau iechyd meddwl, fel straen a gorbryder. Roedd hyn yn gyfrifol am 155 o ddiwrnodau coll pob mis.

Datblygodd ein tîm iechyd a lles gynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r broblem. Y prif flaenoriaethau oedd:

  • codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl
  • sicrhau bod digon o gymorth ar gael i’n gweithwyr
  • darparu hyfforddiant i reolwyr

Gweithiodd y tîm yn galed i roi’r cynllun gweithredu hwn ar waith. Enillasom achrediad allanol ar gyfer ein gwaith a chawsom adborth cadarnhaol oddi wrth ein cydweithwyr. Mae cyfraddau absenoldeb gweithwyr wedi gostwng ers i’r cynllun gweithredu hwn gael ei roi ar waith.

Rydym mor falch o gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon. Byddwn yn parhau i weithio’n galed i ddarparu’r amgylchedd gwaith gorau posibl i’n cydweithwyr.

Llongyfarchiadau i’r tîm ‘A to Z to Better Wellbeing’ am ennill y wobr, ac i bob enillydd arall.

Cyhoeddwyd ar 9 November 2018