Stori newyddion

Dyfarnu £585 miliwn i gymunedau Cymru er mwyn codi’r gwastad yng Nghymru

Bydd cymunedau yng Nghymru yn elwa o £585 miliwn o gyllid sy’n cael ei ddyrannu heddiw i helpu i ledaenu cyfleoedd a chodi’r gwastad.

Levelling Up logo
  • Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyfateb cyllid yr UE yng Nghymru
  • Bydd y cyllid yn cyfateb i’r hyn a wariwyd yn flaenorol yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a phob rhan o Loegr
  • Bydd y dull gweithredu newydd yn lleihau biwrocratiaeth ac yn rhoi rheolaeth i arweinwyr sy’n cael eu hethol yn lleol

Bydd cymunedau yng Nghymru yn elwa o £585 miliwn o gyllid sy’n cael ei ddyrannu heddiw i helpu i ledaenu cyfleoedd a chodi’r gwastad.

Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gweld lleoedd yng Nghymru sydd ei hangen fwyaf yn llunio cynlluniau eleni i gyflawni eu blaenoriaethau lleol, yn seiliedig ar ddyraniad cyllid amodol dros y tair blynedd nesaf. Gallai hyn gynnwys adfywio’r stryd fawr, brwydro yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu, neu helpu mwy o bobl i gael swyddi teilwng – helpu i adfywio cymunedau, mynd i’r afael â dirywiad economaidd a gwrthdroi gwahaniaethau daearyddol yng Nghymru a ledled y DU.

Drwy ledaenu cyfleoedd a ffyniant i bob rhan o’r DU drwy fuddsoddiad dan arweiniad y gymuned, bydd £585 miliwn ar gael i ardaloedd lleol yng Nghymru o dan y gronfa.

Mae’r cyllid yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyfateb i’r cyllid UE blaenorol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Fodd bynnag, bydd y gronfa’n llawer mwy hyblyg ac yn cael ei harwain yn lleol, gan ryddhau cymunedau yng Nghymru o brosesau biwrocrataidd, anhyblyg a chymhleth Cronfeydd Strwythurol yr UE.

Bydd biwrocratiaeth yn cael ei lleihau, a bydd mwy o ddisgresiwn ynghylch ar beth y caiff arian ei wario. Bydd gofynion yr UE ar gyfer arian cyfatebol, a effeithiodd ar leoedd tlotach, yn cael eu dileu. Yn hytrach nag asiantaethau rhanbarthol, bydd penderfyniadau cyllido’n cael eu gwneud gan arweinwyr etholedig mewn llywodraeth leol, gyda mewnbwn gan aelodau seneddol lleol, busnesau lleol a grwpiau gwirfoddol.

Mae’r gronfa newydd hefyd yn cynnwys dros £101 miliwn i Gymru ar gyfer rhaglen rhifedd i oedolion, sef Multiply, a fydd yn cefnogi pobl sydd heb unrhyw sgiliau mathemateg, neu bobl sydd â lefel isel o sgiliau mathemateg, i fynd yn ôl i weithio. Bydd y cynllun yn cynnig tiwtora personol am ddim, hyfforddiant digidol a chyrsiau hyblyg i wella hyder a sgiliau rhifedd oedolion.

Gan hyrwyddo’r cenadaethau ym Mhapur Gwyn Codi’r Gwastad y llywodraeth, mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ychwanegol i gyllid codi’r gwastad eraill ar gyfer Cymru, gan gynnwys y Gronfa Perchenogaeth Gymunedol a’r Gronfa Codi’r Gwastad, sydd eisoes wedi buddsoddi £121m yng Nghymru, a £790 miliwn ar gyfer bargeinion dinesig a thwf.

Mae hyn yn ychwanegol at y setliad grant bloc uchaf erioed o £18 biliwn y flwyddyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer Cymru – y mwyaf ers datganoli dros 20 mlynedd yn ôl a chynnydd o £2.5 biliwn.

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, Ysgrifennydd Gwladol dros Godi’r Gwastad:

Rydyn ni wedi cymryd rheolaeth dros ein harian o’r UE unwaith eto ac rydyn ni’n grymuso’r rheini sy’n adnabod eu cymunedau yng Nghymru orau i gyflawni eu blaenoriaethau.

Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn helpu i ryddhau creadigrwydd a thalent cymunedau sydd wedi cael eu hanwybyddu a’u tanbrisio ers gormod o amser.

Drwy ddyrannu dros hanner biliwn o bunnoedd i gymunedau ar hyd a lled Cymru, byddwn yn helpu i ledaenu cyfleoedd, cynyddu ffyniant a chodi’r gwastad ym mhob rhan o’r DU.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae hyn yn hwb enfawr i bobl ledled Cymru, a fydd nawr yn gallu manteisio ar y gronfa hon i wella eu cymunedau a gwneud penderfyniadau ynghylch lle maen nhw eisiau gweld yr arian yn cael ei wario. Bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn uno’r DU gyfan, gan fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac amddifadedd ar draws y pedair gwlad.

Rwy’n siŵr y bydd y cynigion ar gyfer gwario’r gronfa yn arwain at welliannau sylweddol i fywydau pobl yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae’r angen mwyaf.

Mae pobl ym mhob gwlad a rhanbarth eisiau gweld gwleidyddion yn gweithredu gyda’i gilydd ar yr heriau cyffredin rydyn ni i gyd yn eu hwynebu ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru.

Mae’r fformiwla dyrannu ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ystyried data’r boblogaeth leol a mesur cyffredinol o angen, gan gynnwys ffactorau fel diweithdra a lefelau incwm. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y swm mwyaf o arian yn mynd i’r ardaloedd a fydd yn elwa mwyaf o’r gronfa.

Bydd y cyllid ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ledled y DU yn £2.6 biliwn rhwng 2022 a 2025, gyda’r ffigur hwn yn cyrraedd £1.5 biliwn y flwyddyn erbyn mis Mawrth 2025, gan gyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyfateb i wariant cyfartalog cronfeydd strwythurol yr UE dros y rhaglen flaenorol.

Roedd rhaglenni blaenorol yr UE i fyny ac i lawr, a bydd ardaloedd yn parhau i gael cyllid gan yr UE tan ddiwedd 2024. Yn yr un modd, bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei chynyddu o £400 miliwn yn 2022/23 i £11.5 biliwn yn 2024/25, ac ar yr adeg honno bydd yn cyfateb i gyllid yr UE y mae wedi’i ddisodli.

Cyhoeddwyd ar 13 April 2022