Y Comisiwn i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn Llandrindod
Mae ymddiriedolwyr, elusennau a chynghorwyr elusen yn cael eu gwahodd i fynychu’r cyfarfod ar 7 Mehefin 2016.

Mae’r Comisiwn Elusennau, rheoleiddiwr annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr, wedi cyhoeddi y bydd ei gyfarfod cyhoeddus nesaf yn cael ei gynnal ar 7 Mehefin 2016 yng Ngwesty’r Metropole yn Llandrindod.
William Shawcross, Cadeirydd y comisiwn ac Eryl Besse aelod o’r bwrdd fydd yn agor y cyfarfod. Yna bydd ystod o gyflwyniadau gan uwch staff a siaradwyr allanol. Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar sut y gall elusennau wella eu gwytnwch ariannol. Bydd y sesiynau’n cynnwys:
- rheoli eich arian - 15 o gwestiynau allweddol i’w gofyn
- gwella’r ffordd y mae eich elusen yn gweithio
- digido y comisiwn
Bydd y sesiynau yn cael eu dilyn gan drafodaeth grŵp ar faterion cyfredol sy’n wynebu ymddiriedolwyr, lle gall ymddiriedolwyr rannu problemau bywyd go iawn ac atebion posibl. Bydd mynychwyr hefyd yn clywed y newyddion diweddaraf am weithgareddau’r comisiwn ac yn cael cyfle i ofyn cwestiynau cyn fod y cyfarfod yn gorffen.
Mae’r digwyddiad am ddim, ac mae wedi’i anelu at ddarparu ymddiriedolwyr elusen, gweithwyr a chynghorwyr gyda chanllawiau arfer gorau ac i annog llywodraethu da.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal o 11:00-3:00 yng Ngwesty’r Metropole, Stryd y Deml, Llandrindod, LD1 5DY. Mae’r agenda llawn ar gael ar ein tudalen cyfarfodydd cyhoeddus.
I gadarnhau eich presenoldeb, anfonwch e-bost at PublicMeetings@charitycommission.gsi.gov.uk. Mae lleoedd yn gyfyngedig a chânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Dim ond dau fynychwyr o bob sefydliad fydd yn cael fod yn bresennol. Mae croeso i aelodau’r wasg hefyd i fynychu’r digwyddiad a gofynnir iddynt gofrestru eu diddordeb gyda swyddfa’r wasg yn uniongyrchol.
Papurau ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus ar 7 June 2016
- Agenda cyfarfod cyhoeddus - 7 June 2016 (PDF, 123KB, 1 page)
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Elusennau yw rheolydd annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. I gael gwybod mwy am ein gwaith, gweler ein adroddiad blynyddol
- Chwiliwch am elusennau ar ein cofrestr ar-lein cofrestr ar-lein
- Manylion am sut y comisiwn yn adrodd ar ei waith rheoleiddio ar gael ar GOV.UK