Stori newyddion

Yr Awdurdod Glo i gydgysylltu gwaith diogelwch tomenni yng Nghymru

Yn dilyn y glaw a'r llifogydd na welwyd eu tebyg a achoswyd gan stormydd diweddar, mae Llywodraethau Cymru a'r DU wedi gofyn i'r Awdurdod Glo gydgysylltu gwaith diogelwch y cyhoedd hanfodol.

The Coal Authority is coordinating a team of technical specialists to inspect coal tips across Wales.

Mae’r Awdurdod Glo yn cynnal adolygiad brys o’r holl domenni glo ledled Cymru er mwyn asesu unrhyw risg i bobl neu eiddo.

Rydym yn cydweithio’n agos â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru ac mae cynnydd da yn cael ei wneud.

Dywedodd Lisa Pinney, Prif Weithredwr yr Awdurdod Glo:

Rydyn ni’n gweithio’n gyflym er mwyn casglu data oddi wrth ein partneriaid ac, ar sail yr wybodaeth sydd wedi’i hasesu a’i chategoreiddio hyd yma, rydyn ni wedi llunio rhestr archwilio ar gyfer y tomenni glo sydd yng Nghymru.

Mae’r archwiliadau hyn yn cael eu cynnal eisoes ac mae hediadau drôn hefyd wedi cael eu trefnu ar gyfer rhai o’r safleoedd sydd â blaenoriaeth uchel.

Mae casglu rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r ardaloedd cyfagos yn golygu y gallwn greu cronfa ddata ofodol gynhwysfawr o domenni glo Cymru.

Byddwn yn gallu defnyddio hon i sicrhau y defnyddir dull cyson o weithredu wrth ddeall a rheoli risg yn y safleoedd cloddio glo hanesyddol hyn yn y dyfodol.

Rydyn ni’n falch bod yr holl asiantaethau perthnasol yn cydweithio er mwyn rhannu adnoddau ac rydyn ni, fel bob amser, yn hapus i helpu a chefnogi eraill pa bryd bynnag y gallwn ni.

Rydyn ni hefyd yn deall pryderon cymunedau lleol yng Nghymru y mae hyn yn effeithio arnynt ac rydyn ni’n awyddus i’w sicrhau mai prif ddiben y gwaith hwn yw cadw pobl yn ddiogel a chynnig tawelwch meddwl.

Y tîm diogelwch tomenni glo

Yr Awdurdod Glo
200 Lichfield Lane
Mansfield
Swydd Nottingham
NG18 4RG

E-bost tips@coal.gov.uk

Ffôn 0800 021 9230

Mae'r tîm yn dal gwybodaeth a gall gynnig cyngor ar ddiogelwch o ran safleoedd tomenni glo hanesyddol yng Nghymru.

Dydd Llun i ddydd Iau: 8:45am i 5pm
Dydd Gwener: 8:45am i 4:30pm

Gallwch ein ffonio ni 24/7 i adrodd ar berygl cloddio glo neu i gael cyngor ar ddiogelwch ar 0800 288 4242.

Cyhoeddwyd ar 23 March 2020