Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn llofnodi cytundeb pwysig ar gyfer Canolfan y Llywodraeth yng Nghaerdydd

Mae Llywodraeth y DU wedi dangos ei hymrwymiad heddiw i sicrhau twf ledled y DU drwy lofnodi prydles 25 mlynedd yn natblygiad Sgwâr Canolog, Caerdydd.

Cardiff

Daw’r cyhoeddiad hwn wythnosau ar ôl llofnodi prydles newydd yng Nghaeredin, sy’n brawf pellach o ymrwymiad Llywodraeth y DU i adeiladu Gwasanaeth Sifil cryf y tu allan i Lundain.

Mae’r cytundeb hwn yn rhan o Raglen Canolfannau’r Llywodraeth a fydd yn gweddnewid y ffordd mae’r Gwasanaeth Sifil yn gweithio drwy ddarparu lle i nifer o adrannau llywodraeth mewn un adeilad, ar draws y wlad. Bydd y rhaglen yn arbed dros biliwn o bunnoedd i’r trethdalwr, yn rhyddhau tir ar gyfer tai ac yn lleihau adeiladau’r llywodraeth o 800 i oddeutu 200 erbyn 2022.

Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i brydlesu 265,000 troedfedd sgwâr yn y datblygiad newydd sbon yng nghanol dinas Caerdydd, a fydd yn gartref i dros 4,000 o weision cyhoeddus o nifer o wahanol adrannau o Lywodraeth y DU. Cyllid a Thollau EM fydd y prif feddiannydd a bydd Sgwâr Canolog yn dod yn un o’u canolfannau rhanbarthol. Bydd y swyddfa’n barod i weision sifil ei defnyddio erbyn 2020.

Y cytundeb mawr hwn yw’r enghraifft fwyaf erioed o rag-osod swyddfa yng Nghaerdydd ac mae’n gyfle adfywio anferth i brifddinas Cymru. Yn ogystal â hyn, drwy gyfuno gofod swyddfa yng Nghymru bydd yn arbed miliynau o bunnoedd i’r trethdalwr.

Drwy ddod â nifer o wahanol adrannau i weithio ochr yn ochr mewn un adeilad, bydd Rhaglen Canolfannau’r Llywodraeth yn annog mwy o gydweithio a chynhyrchiant yn y Gwasanaeth Sifil. Bydd pob canolfan yn caniatáu Gweithio Clyfar, a fydd yn galluogi gweision sifil i weithio’n fwy hyblyg a chynhyrchiol. Bydd hyn yn helpu i ddenu a chadw’r gweithwyr mwyaf talentog sydd eu hangen er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cyhoedd.

Bydd y Ganolfan hefyd, yn bwysig, yn galluogi Llywodraeth y DU i gael presenoldeb cryf a chydlynol yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog dros Wytnwch ac Effeithlonrwydd y Llywodraeth, Caroline Nokes:

Mae’r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus o’r safon uchaf ym mhob cwr o’r DU, ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn gam pwysig tuag at gyflawni hynny.

Mae’r brydles newydd hon yn newyddion gwych i Gaerdydd, a bydd yn sicrhau amrywiaeth o fanteision i bobl yng Nghaerdydd o ofod a thrafnidiaeth gyhoeddus well i fynediad gwell i Stadiwm Principality o’r orsaf.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:

Mae gan Lywodraeth y DU ôl troed mawr yng Nghymru yn barod a chredaf fod lleoli nifer o adrannau mewn un swyddfa yng nghanol Caerdydd yn dangos yr effaith y gallwn ei chael drwy gydweithio’n ehangach. Bydd hyn nid yn unig yn arwain at fwy o integreiddio rhwng adrannau ac arbed costau amlwg i’r trethdalwr, ond bydd hefyd yn cyfleu neges glir fod Llywodraeth y DU yn weladwy, yn hygyrch ac yn helpu i wella bywydau pobl yng Nghymru”.

Cyhoeddwyd ar 8 August 2017