Stori newyddion

Oriau agor y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd 2023

Manylion oriau agor y llysoedd a’r tribiwnlysoedd dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Bydd ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd yn cau dros dro ar sawl ddyddiad dros gyfnod y Nadolig.

Y dyddiadau lle byddant ar gau eleni yw:

  • Dydd Llun - 25 Rhagfyr 2023
  • Dydd Mawrth - 26 Rhagfyr 2023
  • Dydd Mercher - 27 Rhagfyr 2023
  • Dydd Llun - 1 Ionawr 2024

Bydd rhai llysoedd ynadon ar agor ar 26 Rhagfyr 2023 ac ar 1 Ionawr 2024, ar gyfer gwrandawiadau remand yn unig.

Bydd cau llysoedd a thribiwnlysoedd ar ddydd Mercher 27 Rhagfyr 2023 yn effeithio ar y Llysoedd Sirol a Theulu, Llysoedd y Goron, Yr Uchel Lys, Y Llys Apêl (Llysoedd Barn Brenhinol a’r Adeilad Rolls) a rhai o’r tribiwnlysoedd. Bydd y llysoedd ynadon ac ein swyddfeydd Tribiwnlys yn Yr Alban ar agor ar y dyddiad hwn.

Yn Yr Alban, bydd ein swyddfeydd tribiwnlys hefyd ar gau ar ddydd Mawrth 2 Ionawr 2023.

Bydd gwrandawiadau sy’n digwydd dros gyfnod y Nadolig yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb, neu drwy gyswllt fideo neu dros y ffôn. Bydd eich hysbysiad o wrandawiad yn cadarnhau hyn.

Cysylltwch â’r llys neu dribiwnlys perthnasol i gael mwy o fanylion.

Cyhoeddwyd ar 6 November 2023