Amseroedd agor y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2025
Manylion am amseroedd agor y llysoedd a’r tribiwnlysoedd dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Bydd ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd yn cau dros dro ar sawl dyddiad dros gyfnod y Nadolig.
Y dyddiadau cau ar gyfer y flwyddyn hon yw:
- Dydd Mercher 24 Rhagfyr 2025
- Dydd Iau 25 Rhagfyr 2025
- Dydd Gwener 26 Rhagfyr 2025
- Dydd Iau 1 Ionawr 2026
Bydd rhai llysoedd ynadon ar agor ar 27 Rhagfyr 2025 ac 1 Ionawr 2026, ond ar gyfer gwrandawiadau remand yn unig.
Dydd Mercher 24 Rhagfyr 2025, dim ond Llysoedd Sirol a Theulu, Llysoedd y Goron, yr Uchel Lys, y Llys Apêl (Y Llysoedd Barn Brenhinol a’r Adeilad Rolls) a rhai tribiwnlysoedd fydd ar gau. Bydd llysoedd ynadon a’n swyddfeydd tribiwnlysoedd yn yr Alban ar agor ar y diwrnod hwn. Yn yr Alban, bydd swyddfeydd ein tribiwnlysoedd hefyd ar gau ddydd Iau 2 Ionawr 2025.
Gall gwrandawiadau sy’n digwydd dros gyfnod y Nadolig ddigwydd wyneb yn wyneb, drwy fideo neu dros y ffôn. Bydd eich hysbysiad o wrandawiad yn cadarnhau hyn.
Efallai y bydd rhai llysoedd dibynnol/lleoliadau gwrandawiadau llai hefyd ar gau y tu allan i’r trefniadau hyn. I wirio neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch yn uniongyrchol â’r llys neu’r tribiwnlys perthnasol.