Datganiad i'r wasg

Cywion ieir a ffliw dynion ar frig esgusodion efadu treth

Mae DVLA wedi rhyddhau rhai o’r esgusodion mwyaf dyfeisgar mae pobl wedi defnyddio’r flwyddyn hon am beidio â threthu eu cerbydau.

Three chickens

“Ni allaf drethu’r fan oherwydd ei fod yn llawn cywion ieir…” oedd un o’r esgusodion a ddefnyddiodd pobl eleni am beidio â threthu eu ceir, yn ôl gwybodaeth a gyhoeddwyd heddiw gan DVLA.

Mae rhai o’r esgusodion mwyaf dyfeisgar wedi’u rhestri isod (sbwyliwr, nid oedd un ohonynt wedi gweithio):

  • Rwyf ar fin dechrau dedfryd yn y carchar, felly a oes unrhyw ffordd y gallwch gadw’r fan hufen iâ am chwe mis nes i mi ddod allan?
  • Bydden i wedi trethu’r fan ond roedd fy nghyn bartner chwerw wedi rhoi pedwar cyw iâr byw ynddo
  • Rwy’n gwybod ei fod heb ei drethu, ond nid oeddwn yn credu y byddech yn ei glampio tra bod ton wres
  • Roeddwn wedi anghofio ei drethu oherwydd fy mod yn gofalu am y plant (19 a 26 oed)
  • Nid oeddwn yn gallu trethu fy nghar oherwydd fy mod i wedi cael ffliw dynion ac wedi bod yn y gwely am 4 wythnos
  • Bydden i wedi trethu fy nghar, ond roeddech chi wedi ei glampio mor gynnar yn y bore (clampiwyd y car amser cinio)

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

Er ein bod ni’n gwybod bod y mwyafrif helaeth o fodurwyr yn trethu eu ceir ar amser, mae dal rhai sy’n dewis peidio.

Mae trethu eich car yn hawdd iawn i’w wneud ar-lein, felly nid oes esgus – hyd yn oed os ydyw wedi ei lenwi gyda chywion ieir.

Mae DVLA yn parhau i anfon llythyron atgoffa i fodurwyr pan mae eu treth car yn ddyledus. Fodd bynnag, gallant hefyd wirio pryd mae eu treth car yn ddyledus 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos drwy fynd i’r Gwasanaeth Ymholiadau Cerbyd ar GOV.UK.

Mae’n hawdd gwirio pryd mae treth cerbyd yn ddyledus ar Amazon Alexa drwy lawrlwytho’r sgìl hon. Gall modurwyr hefyd ofyn i’w Google Home, ffôn symudol Android neu lechen Android i “Siarad â DVLA” neu “Gofyn DVLA.”

Gall modurwyr hefyd drethu eu ceir ar-lein neu drwy ffonio 0300 123 4321 ar y gwasanaeth 24 awr awtomataidd.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 3 March 2020