Stori newyddion

Cheryl Gillan yn croesawu ceisiadau yng Nghymru am Statws Treftadaeth y Byd

Yn ol Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, byddai Merthyr Tudful, Clawdd Offa, Dyffryn Gwy a Fforest y Ddena a Diwydiant Llechi Gogledd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Yn ol Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, byddai Merthyr Tudful, Clawdd Offa, Dyffryn Gwy a Fforest y Ddena a Diwydiant Llechi Gogledd Cymru yn ychwanegiadau gwerth chweil i restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Mae’r pedwar safle ymysg 38 lle ledled y DU sydd wedi eu cynnig eu hunain i fynd ar Restr Hir newydd y DU o safleoedd ar gyfer Statws Treftadaeth y Byd.   Caiff panel annibynnol o arbenigwyr ei sefydlu i asesu pob cais a chyflwynir rhestr newydd o safleoedd posib i UNESCO yn 2011.

A hithau’n croesawu’r tri chais o Gymru, dywedodd Mrs Gillan:  “Byddai’r pedwar safle yng Nghymru yn llwyr haeddu Statws Treftadaeth y Byd, gan dynnu sylw’r byd i’n treftadaeth gyfoethog.   Mae tri o’r safleoedd yn dangos cyfnodau unigryw yn ein hanes - o frwydrau Eingl-Sacsonaidd, y chwyldro diwydiannol a’i wreiddiau ym Merthyr i ran flaenllaw y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’i effaith ar dirwedd gwledydd ym mhob cwr o’r byd yn y 19eg ganrif.  

“Mae twristiaeth yn chwarae rhan allweddol yn economi Cymru a dim ond un enghraifft yw Dyffryn Gwy a Fforest y Ddena o’r ardaloedd o harddwch eithriadol sydd gennym yng Nghymru.   Byddai ennill Statws Treftadaeth y Byd yn rhoi hwb ychwanegol i’n diwydiant twristiaid drwy ddenu mwy o ymwelwyr i Gymru. 

“Rydym yn ffodus yng Nghymru bod Cestyll Brenin Edward I, tirwedd ddiwydiannol Blaenafon a thraphont ddŵr Pontcysyllte eisoes yn safleoedd Treftadaeth y Byd.  Byddai’r pedwar safle newydd posib yn ychwanegiadau gwerth chweil ar Restr UNESCO o safleoedd Treftadaeth y Byd, gan ddangos i’r byd yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.”

Cyhoeddwyd ar 7 July 2010