Stori newyddion

Cheryl Gillan yn croesawu penodi Cyfarwyddwr newydd BBC Cymru Wales

Croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru benodiad Rhodri Talfan Davies yn Gyfarwyddwr BBC Cymru Wales heddiw. Dywedodd Mrs Gillan: “Dymunaf anfon…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru benodiad Rhodri Talfan Davies yn Gyfarwyddwr BBC Cymru Wales heddiw.

Dywedodd Mrs Gillan: “Dymunaf anfon fy llongyfarchiadau cynhesaf at Rhodri Talfan Davies ar ei benodiad fel Cyfarwyddwr newydd BBC Cymru Wales.

“Mae dyfnder ei brofiad yn siarad drosto’i hun, ac rwy’n sicr y bydd yn parhau i gryfhau’r cynnyrch sydd mor hanfodol i Gymru a’i diwylliant.   Gyda datblygiad y Pentref Drama ym Mae Caerdydd, mae’n  amser cyffrous i BBC Cymru Wales.

“Rwyf fi a’r tim yn Swyddfa Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda Mr Davies yn y dyfodol.”

Cyhoeddwyd ar 26 July 2011