Stori newyddion

Cheryl Gillan yn croesawu gostyngiad pellach mewn troseddu yng Nghymru

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu ystadegau a gyhoeddwyd heddiw [Dydd Iau 14 Gorffennaf] sy’n dangos gostyngiad cyffredinol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu ystadegau a gyhoeddwyd heddiw [Dydd Iau 14 Gorffennaf] sy’n dangos gostyngiad cyffredinol o 8% yn y troseddau a gofnodwyd yng Nghymru, o’i gymharu a’r 12 mis blaenorol. 

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae’r ystadegau hyn yn cadarnhau gostyngiad pellach yn gyffredinol mewn troseddau yng Nghymru. Rydym yn croesawu’r newyddion hyn yn fawr.  Rydw i’n cyfarfod yn rheolaidd a’n pedwar heddlu, sy’n gwneud gwaith gwych i gadw ein strydoedd yn ddiogel. Fodd bynnag, ni all lefelau troseddu byth a bod yn rhy isel. 

Mae canfyddiad y cyhoedd am droseddau penodol dal yr un fath i raddau helaeth, ac mae angen i ni ymdrechu’n galetach nag erioed i fynd i’r afael a’r mater. Oherwydd hyn rydym wedi cyflwyno cynlluniau cynhwysfawr, er mwyn diwygio’r heddlu ac i leihau troseddu. Trwy ryddhau mwy o’r heddlu oddi wrth dargedau canolog a biwrocratiaeth gallwn alluogi swyddogion i fynd nol allan i’r strydoedd er mwyn atal troseddau.  

“Rydym eisiau gwneud yr heddlu yn fwy atebol i’r cyhoedd, trwy roi pŵer yn ol i’r bobl. Bydd yr heddlu a Chomisiynwyr Troseddau yn sicrhau blaenoriaethau plismona lleol gyda ffocws ar yr hyn y mae pobl leol eu heisiau, gan ailgysylltu’r heddlu gyda’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

Mae’r ystadegau diweddaraf ar gyfer 2009/10 o’u cymharu a 2010/11 yn dangos yng Nghymru fod:

  • Trais yn erbyn pobl i lawr 9%
  • Lladrad i lawr 7%
  • Bwrgleriaeth i lawr 5%
  • Troseddau yn erbyn cerbydau i lawr 21%
  • Twyll a Ffugio i lawr 16%  
  • Difrod Troseddol i lawr 15%

Dyfed-Powys sydd a’r gyfradd troseddu gyffredinol isaf yn y DU

Cyhoeddwyd ar 14 July 2011