Stori newyddion

Cheryl Gillan yn croesawu David i’r Tîm Gweinidogol

Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu penodiad David Jones i dim Gweinidogol Cymru. Mae Mr Jones, a arferai …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu penodiad David Jones i dim Gweinidogol Cymru.

Mae Mr Jones, a arferai fod yn uwch bartner yn ei bractis cyfreithiol ei hun, yn Weinidog yr Wrthblaid dros Gymru er mis Tachwedd 2006. Mae’n Aelod Seneddol er 2005 ac yn gyn Aelod Cynulliad.

A hithau’n croesawu’r penodiad, dywedodd Mrs Gillan: “Rwy’n hynod o falch bod David yn ymuno a mi yn y Llywodraeth. Rwyf wedi gweithio’n agos gyda David ers nifer o flynyddoedd a gyda’n gilydd byddwn yn llais cadarn dros Gymru.  Bydd profiadau David fel AS er 2005, ac fel cyn Aelod Cynulliad, yn fuddiol iawn wrth i ni edrych ymlaen at berthynas adeiladol a phwrpasol rhwng Bae Caerdydd a San Steffan.

“Economi Cymru fydd yn cael y flaenoriaeth gyntaf.  Byddwn hefyd yn symud  ymlaen gyda’r refferendwm ar ragor o bwerau deddfwriaethol i Gymru, ac yn gweithio’n galed i sicrhau’r fargen decaf i bobl Cymru ac i wneud yn siŵr eu bod  yn cael y gwasanaethau gorau posibl.”

Wrth son am ei benodiad i’r Llywodraeth, dywedodd Mr Jones:  “Rwy’n falch iawn i mi gael fy mhenodi.  Rwyf wedi gweithio gyda Cheryl yn yr wrthblaid dros y pedair blynedd ddiwethaf, ac rwy’n teimlo ein bod yn gweithio’n dda gyda’n gilydd.  Mae fy mhrofiad ar Bwyllgor Dethol Cymru dros gyfnod y Senedd ddiwethaf wedi rhoi cyflwyniad gwerthfawr i mi ar y materion cyfansoddiadol a’r materion eraill sy’n wynebu Cymru.”

Ganwyd David Jones yn Llundain yn 1952 i rieni Cymraeg, ac mae’n byw yng Ngogledd Cymru ers ei blentyndod. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon, yna aeth i astudio’r gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Llundain, cyn dychwelyd i Ogledd Cymru i sefydlu practis cyfreithiol yn Llandudno, lle’r oedd yn uwch bartner.

Etholwyd David yn Aelod Seneddol dros Orllewin Clwyd ym mis Mai 2005. Yn 2002, daeth yn Aelod Cynulliad dros Ranbarth Etholiadol Gogledd Cymru yn lle Rod Richards. Rhoddodd y gorau i’r rol honno yn etholiadau’r Cynulliad yn 2003.

Yn San Steffan, mae David wedi eistedd ar y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ac mae’n gyd-gadeirydd y Grŵp Seneddol Cysylltiedig ar Adnoddau Cynaliadwy. Cafodd ei benodi’n Weinidog yr Wrthblaid dros Gymru ym mis Tachwedd 2006.

Cyhoeddwyd ar 14 May 2010