Datganiad i'r wasg

Cheryl Gillan yn croesawu’r Gyllideb ar gyfer adferiad yng Nghymru, a fydd yn cefnogi busnesau a theuluoedd Cymru

Bydd Cymru yn cael £65 miliwn ychwanegol o ganlyniad i’r Gyllideb er mwyn hybu buddsoddiad a thwf economaidd, meddai Cheryl Gillan, Ysgrifennydd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Cymru yn cael £65 miliwn ychwanegol o ganlyniad i’r Gyllideb er mwyn hybu buddsoddiad a thwf economaidd, meddai Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw (dydd Mercher, 23 Mawrth).

Mae Cyllideb heddiw yn fargen dda i Gymru. Mae’n cynnal economi gref a sefydlog gan weithio gyda busnesau i adeiladu ar gyfer twf yng Nghymru ac yn helpu’r rheini y mae mwyaf angen cymorth arnynt.

Bydd newidiadau i lwfansau treth personol a gyhoeddwyd gan y Canghellor heddiw yn golygu na fydd yn rhaid i 10,000 ychwanegol o rai o’r bobl dlotaf yng Nghymru dalu treth a bydd o fudd i 1.13 miliwn o drethdalwyr yng Nghymru, ychwanegodd Mrs Gillan.  Dywedodd:  “Mae hynny’n golygu ers i ni ddod i bŵer y bydd 52,000 o enillwyr incwm isel yn rhoi’r gorau i dalu treth.”

Croesawodd y gostyngiad mewn treth tanwydd hefyd a fydd yn helpu modurwyr ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gan ganslo’r codiadau mewn treth roedd y Llywodraeth flaenorol wedi bwriadu eu cyflwyno, felly bydd tanwydd 5c y litr yn rhatach nag y byddai wedi bod dan Lywodraeth Lafur.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod y ddyletswydd nawr yn gorwedd ar ysgwyddau Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn mwynhau’r un cyfleoedd ar gyfer twf economaidd a buddsoddiad a’r rheini sy’n cael eu gweithredu yn Lloegr.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mewn cyllideb sy’n gyllidol niwtral, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael £65 miliwn ychwanegol i’w wario o ganlyniad i gyhoeddiadau heddiw.

“Mae hyn yn newyddion da i Gymru. Yn y meysydd datganoledig, y Gweinidogion yn y Cynulliad yng Nghaerdydd sy’n gyfrifol am gyflawni’r un cyfleoedd rydym yn eu cynnig i gwmniau yn Lloegr.

“Bydd newidiadau mewn treth a gyhoeddwyd gan y Canghellor heddiw hefyd o fudd i’r rheini dan 65 oed drwy gynyddu’r trothwy treth sylfaenol £630 arall i £8,105 yn 2012-13.

“Mae teuluoedd, pensiynwyr a busnesau yng Nghymru i gyd yn cael eu cefnogi gan y mesurau yng Nghyllideb heddiw. Amcangyfrifir y gallai 5,900 o bobl ifanc yng Nghymru hefyd elwa o raglen profiad gwaith newydd ar gyfer pobl ifanc dan 25 oed sy’n cael Lwfans Ceisio Gwaith.

“Bydd modurwyr yng Nghymru, yn enwedig y rheini yn ein hardaloedd mwyaf gwledig, hefyd yn elwa yn sgil torri un geiniog y litr oddi ar dreth tanwydd a ddaw i rym o 6pm ymlaen. Gwn y bydd modurwyr Cymru yn croesawu’r toriad hwn ar ol i astudiaeth ddiweddar gan Dasglu Materion Gwledig Swyddfa Cymru a’n Grŵp Ymgynghorol Busnes gydnabod pryderon bod pris tanwydd ac effaith waethygol treth tanwydd yn cael yr effaith fwyaf ar gymunedau a busnesau gwledig yng Nghymru.”

Dywedodd Mrs Gillan fod mesurau i symleiddio system dreth gymhleth y DU a gwella cystadleurwydd treth y DU yn ddramatig a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn cefnogi busnesau a mentergarwch yng Nghymru, yn enwedig cwmniau bach a chanolig.

Dywedodd: “Bydd y gostyngiad o ddau y cant ym mhrif gyfradd y dreth gorfforaeth i 26 y cant o’r mis nesaf ymlaen, gan ddisgyn i 23 y cant erbyn 2014, yn helpu i greu’r system dreth fwyaf gystadleuol yn yr G20. Bydd cyflwyno moratoriwm sy’n eithrio cwmniau sy’n cyflogi llai na 10 o weithwyr a busnesau sydd newydd ddechrau o reoliadau domestig newydd am dair blynedd o fis Ebrill ymlaen yn golygu mai Cymru a gweddill y DU fydd un o’r llefydd gorau yng Nghymru i ddechrau, cyllido a thyfu busnes. Y neges a glywir yw bod Cymru ar agor i fusnes.”

Dywedodd Mrs Gillan fod Cynllun y Llywodraeth ar gyfer Twf, a gyhoeddwyd ochr yn ochr a’r Gyllideb o fudd i fusnesau yng Nghymru, a byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael £65 miliwn mewn cyllid canlyniadol i adlewyrchu’r ddarpariaeth uwch yn Lloegr ar gyfer y rheini sy’n prynu cartrefi, prentisiaethau, colegau technegol, Ardaloedd Mentergarwch a rhyddhad ardrethi i fusnesau bach.

Dywedodd: “Llywodraeth nesaf Cynulliad Cymru fydd yn penderfynu ar ei pholisiau ei hun yn y meysydd hynny a ddatganolwyd, ond bydd y Llywodraeth a Swyddfa Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth y Cynulliad i weithredu’r Cynllun ar gyfer Twf yng Nghymru. 

“Gyda rhwystrau i fusnesau yn cael eu chwalu yn Lloegr, megis rheoliadau cynllunio beichus, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i’w hannog i sicrhau nad yw Cymru dan anfantais yn sgil rheoliadau neu fiwrocratiaeth ddiangen.

“Yn y cyfamser, bydd y cyllid a gyhoeddwyd gan y Canghellor i ailddyblu’r rheilffordd rhwng Swindon a Kemble yn ategu’r £1 biliwn i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Dde Cymru.”

Ychwanegodd Mrs Gillan: “Mae Cyllideb heddiw yn amlinellu’r camau nesaf yng nghynllun y Llywodraeth i weddnewid economi Prydain drwy ail-fantoli’r economi oddi wrth wario anghynaliadwy tuag at allforio a buddsoddiad sector preifat, ar yr un pryd a gwireddu gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer system trethi, budd-daliadau a phensiynau syml, effeithlon a theg sy’n gwobrwyo gwaith a symudedd personol a bydd yn codi 10,000 arall o’r bobl sy’n cael y tal isaf allan o dreth.”

Cyhoeddwyd ar 23 March 2011