Datganiad i'r wasg

Cheryl Gillan yn gwylio Only Men Aloud! yn codi’r llen ar wythnos yr Eisteddfod

Roedd yn bleser gan Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gymryd sedd flaen yng nghyngerdd gala agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol eleni…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Roedd yn bleser gan Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gymryd sedd flaen yng nghyngerdd gala agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng Nglynebwy (dydd Gwener 31 Gorffennaf).

Gwyliodd Mrs Gillan y cor llwyddiannus o Gymru, Only Men Aloud! yn codi’r llen ar yr ŵyl flynyddol sy’n hyrwyddo diwylliant Cymru, a gynhelir yng Nglynebwy am y tro cyntaf er 1958. 

Cynhaliwyd y cyngerdd yn y Babell Binc enwog ar y Maes, ac roedd hefyd yn cynnwys perfformiad cyntaf erioed y cor ieuenctid newydd Only Boys Aloud! a lansiwyd gan y gŵr a sefydlodd Only Men Aloud!, Tim Rhys Evans, i sicrhau bod traddodiad y corau meibion yng Nghymru yn parhau.

Wrth siarad ar y Maes, dywedodd Mrs Gillan: “Mae Only Men Aloud! eisoes wedi sefydlu eu hunain fel llysgenhadon modern dros y traddodiad corau meibion yng Nghymru.

“Pan enillodd y cor y wobr Brit Clasurol yn gynharach eleni, ysgrifennais atynt i’w llongyfarch gan ddweud fy mod yn edrych ymlaen at eu gweld yn fuan. Roeddwn wedi gwirioni felly pan glywais mai nhw fyddai’n codi’r llen ar yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng Nglynebwy, ynghyd a’r cor ieuenctid Only Boys Aloud!

“Hoffwn longyfarch Tim Rhys Evans a’i gorau am eu gwaith yn cadw traddodiad y corau meibion yn fyw yng Nghymru a gwneud yn siŵr ei fod yn ffynnu.”

Roedd Mrs Gillan i fod i fynd yn ol i’r Eisteddfod Genedlaethol fore Sadwrn i fynd o amgylch y Maes ac i gyfarfod Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, sef Elfed Roberts, a chyrff yn cynnwys Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac Awdurdod S4C.

Dywedodd: “Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dal yn un o’r digwyddiadau diwylliannol mwyaf yn Ewrop. Mae’n rhoi llwyfan i ddoniau Cymru a thraddodiadau Cymru mewn ffordd ddiwylliannol ryfeddol sy’n unigryw i Gymru.

Cyhoeddwyd ar 30 July 2010