Datganiad i'r wasg

Cheryl Gillan yn ymweld â hosbis plant Tŷ Hafan

Bu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymweld a hosbis plant Tŷ Hafan ym Mro Morgannwg heddiw (dydd Iau, 27 Ionawr) i gwrdd a staff…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymweld a hosbis plant Tŷ Hafan ym Mro Morgannwg heddiw (dydd Iau, 27 Ionawr) i gwrdd a staff, plant a’u teuluoedd.

Cafodd ei chroesawu gan Ray Hurcombe, y Prif Weithredwr, a Robert Lewis, y Cadeirydd, cyn cael cyfle i edrych ar y cyfleusterau. Mae Tŷ Hafan yn darparu gofal lliniarol a seibiant i blant a phobl ifanc a chyflyrau megis Ffibrosis Systig, Nychdod Cyhyrol Duchenne a Chlefyd Battens. 

Ymwelodd Mrs Gillan a Tŷ Hafan am y tro cyntaf yn 2006.

Ar ol ei hymweliad heddiw, dywedodd Mrs Gillan: “Mae staff a gwirfoddolwyr ymroddedig Tŷ Hafan wedi creu lleoliad gwych sy’n gyfforddus ac yn llawn gofal i bobl ifanc a’u teuluoedd er mwyn manteisio i’r eithaf ar eu hamser gyda’i gilydd mewn amgylchedd cartrefol a chynnes.  Cefais fy synnu gan y gefnogaeth wych, y therapiau a’r gweithgareddau a gynigir i’r plant a’u teuluoedd yma.

“Mae’r staff a’r gwirfoddolwyr sy’n rhedeg Tŷ Hafan yn ymgorffori’r ysbryd o gymuned, tosturi a haelioni y dylem i gyd ymgyrraedd tuag ato. Rwyf yn edmygu pawb y cefais gyfle i gwrdd a nhw yma heddiw ac rwy’n dymuno’r gorau iddynt.”

Cyhoeddwyd ar 27 January 2011