Cheryl Gillan yn gweld talent Cymru’n ffynnu yn Chelsea
Cyfarfu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a rhai o’r garddwyr a’r arbenigwyr garddwriaethol o Gymru oedd yn arddangos eu gwaith yn …
Cyfarfu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a rhai o’r garddwyr a’r arbenigwyr garddwriaethol o Gymru oedd yn arddangos eu gwaith yn Sioe Flodau’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yn Chelsea yr wythnos hon.
Yn ystod ei hymweliad, cyfarfu Mrs Gillan a Medwyn Williams o Ynys Mon a enillodd ei unfed fedal aur ar ddeg yn y digwyddiad. Yn ogystal, derbyniodd Mr Williams Wobr nodedig y Llywydd am yr arddangosfa orau yn y sioe gyda’i drefniant o 42 math o lysiau.
Meddai Mrs Gillan, sy’n arddwraig amatur frwd: ”Rydw i wedi mwynhau gweld arddangosfeydd bendigedig rhai o arddwriaethwyr pennaf Cymru yn y sioe. Roedd y stondinau’n fendigedig ac roeddynt yn dangos y cyfoeth o dalent a sgiliau garddwriaethol sydd gennym yma yng Nghymru. Gwych o beth oedd cael llongyfarch Mr Medwyn Williams a’i deulu’n bersonol ar ennill eu hunfed fedal aur ar ddeg yn y sioe.
“Yn ystod fy nhrafodaethau a’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, trefnais i gyfarfod a nhw yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn i drafod sioe’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yng Nghaerdydd ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf yn fanylach er mwyn iddi fod yr orau eto. Mae sioe’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yng Nghaerdydd yn gyfle gwych i arddangos talent gorau Cymru yng Nghymru. Gobeithio hefyd y byddwn yn croesawu nifer o arddwriaethwyr a selogion ar ymweliad a Chymru ar gyfer y sioe ym mis Ebrill.”