Stori newyddion

Cheryl Gillan yn dweud bod y ffigurau ar gyfer diweithdra yn pwysleisio’r angen i gryfhau economi Cymru

Heddiw, yn dilyn cyhoeddi’r ystadegau diweddaraf ar gyfer y farchnad lafur, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae’r ffigurau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, yn dilyn cyhoeddi’r ystadegau diweddaraf ar gyfer y farchnad lafur, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Mae’r ffigurau cyflogaeth a gyhoeddwyd heddiw yn dangos pam mai’r flaenoriaeth ar gyfer y Llywodraeth yw gweddnewid y cyflwr truenus yr oedd yr economi ynddo dan y weinyddiaeth flaenorol. Drwy gryfhau’r economi byddwn yn helpu i greu rhagor o swyddi.

“Rydym wedi ymrwymo i barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu busnesau Cymru i dyfu a datblygu ac i helpu unigolion i ddod o hyd i waith drwy gyfrwng hyfforddiant a phrofiad gwaith. Rydym yn benderfynol o wella’r economi, cael pobl yn ol i fyd gwaith a rhoi hwb i Gymru unwaith eto.”

Ar hyn o bryd, mae’r gyfradd diweithdra yn 9.1% yng Nghymru, sy’n gynnydd o 0.1% o’r chwarter diwethaf.

Cyhoeddwyd ar 14 July 2010