Cheryl Gillan yn canmol “arweinyddiaeth gadarn” pennaeth TATA Steel sydd ar fin ymddeol
Heddiw, fe wnaeth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ganmol yr arweinyddiaeth gadarn a ddangoswyd gan Uday Chaturvedi, sy’n ymddeol…
Heddiw, fe wnaeth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ganmol yr arweinyddiaeth gadarn a ddangoswyd gan Uday Chaturvedi, sy’n ymddeol o’i swydd fel Prif Swyddog Technegol TATA Steel UK.
Ymunodd Mr Chaturvedi a TATA Steel yn 1969, ac mae wedi ymgymryd a nifer o swyddi o fewn y cwmni gan gynnwys Is-Lywydd, Cynnyrch Hir, ac Is-Lywydd, TQM & Coke, Gwaith Haearn Sinter. Fis Tachwedd y llynedd, cyhoeddodd gynlluniau i ymddeol a dychwelyd i India.
Gan siarad ar ol eu cyfarfod ffarwelio yng Nghaerdydd, dywedodd Mrs Gillan:
“Mae cymhelliant a phenderfyniad Mr Chaturvedi wedi helpu i ddiogelu’r diwydiant dur yng Nghymru, ac wedi cynnal safle Tata fel gwneuthurwr dur blaenllaw yn y DU.
“Drwy’r hyn sy’n aml wedi bod yn gyfnodau anodd i’r diwydiant, mae wedi darparu arweinyddiaeth gadarn i’r cwmni a’i gyflogwyr. Mae hyn i’w weld yn y modd y mae Tata wedi parhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i’w gwsmeriaid ym mhedwar ban y byd.
“Y tu allan i’r swyddfa, mae ei gyfranogiad a’i fuddsoddiad mewn prosiectau lleol, ysgolion, clybiau chwaraeon ac elusennau, wedi helpu i osod Tata Steel yn gadarn yng nghanol y gymuned leol.
“Ar nodyn personol, mae wedi rhoi cyngor arbennig i minnau ac i waith Swyddfa Cymru, drwy gymryd rhan yn fy Ngrŵp Cynghori ar Fusnes.
“Rwy’n hynod o falch o fod wedi cael y cyfle i ddiolch iddo’n bersonol am ei waith yng Nghymru. Mae’n gadael Tata Steel mewn sefyllfa gref fel busnes allweddol yn economi Cymru, a chyflogwr sy’n cael ei werthfawrogi yng Nghymru. Rwy’n dymuno ymddeoliad hir a hapus iddo yn ol yn India.”