Stori newyddion

Cheryl Gillan yn canmol Tîm y Celtic Manor am lwyddiant ysgubol Cwpan Ryder yng Nghymru

Mae Ysgrifennydd Cymru yn anfon ei llongyfarchion at Colin Montgomerie a’i dim am ddod a Chwpan Ryder yn ol i Ewrop - ac i Syr Terry Matthews…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Cymru yn anfon ei llongyfarchion at Colin Montgomerie a’i dim am ddod a Chwpan Ryder yn ol i Ewrop - ac i Syr Terry Matthews a’i dim yng Ngwesty’r Celtic Manor am frwydro yn erbyn yr elfennau i sicrhau un o’r digwyddiadau Cwpan Ryder mwyaf cofiadwy dros y blynyddoedd diwethaf.

Meddai Mrs Gillan: “Gall Syr Terry Matthews a’i dim ymroddgar yn y Celtic Manor sefyll yn llawn balchder ochr yn ochr a Monty a’i dim rhagorol fel enillwyr Cwpan Ryder 2010. Heno, dylai Cymru gyfan fod yn dathlu eu llwyddiant i lwyfannu’r digwyddiad anhygoel hwn yng Nghasnewydd.

“Ar ol naw mlynedd o waith paratoi diddiwedd, ni allai hyd yn oed hanner mis o law mewn 48 awr ladd yr ysbryd a’r brwdfrydedd a welwyd yng Ngwesty’r Celtic Mangor ar gyfer yr ymweliad hanesyddol hwn - ymweliad cyntaf Cwpan Ryder a Chymru. Bu’r tim yn gweithio’n ddiflino ac yn broffesiynol i sicrhau y gellid dal ati hyd at y diweddglo gwefreiddiol a llawn cyffro a gafwyd.”

Ychwanegodd Mrs Gillan, a fu yng Ngwesty’r Celtic Manor ddydd Gwener: “O ganlyniad i’r tywydd, dyma’r tro cyntaf i dwrnamaint Cwpan Ryder gael ei ymestyn i bedwar diwrnod, a dyma’r tro cyntaf iddo hefyd gael ei gynnal ar gwrs a adeiladwyd yn arbennig ar ei gyfer. Ond ni ddylai’r glaw dynnu sylw oddi ar y digwyddiad rhagorol sydd wedi gwneud llawer i godi proffil ac enw da Cymru ledled y byd.

“Rwy’n siŵr bod y chwaraewyr a’r miloedd lawer o gefnogwyr, a ddaeth o bob cwr o’r byd i weld y digwyddiad chwaraeon hwn, wedi mwynhau’r croeso Cymreig, ac y byddant yn troi am adref ag atgofion melys gyda’r bwriad, gobeithio, o ddychwelyd i ymweld a Chymru eto yn y dyfodol.”

Cyhoeddwyd ar 4 October 2010