Datganiad i'r wasg

Cheryl Gillan yn ymweld â’r Canolbarth ar ei hymweliad swyddogol cyntaf

Bu Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan yn ymweld ag Aberhonddu a’r Gelli Gandryll ar ei hymweliad swyddogol cyntaf a’r Canolbarth yr wythnos yma…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bu Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan yn ymweld ag Aberhonddu a’r Gelli Gandryll ar ei hymweliad swyddogol cyntaf a’r Canolbarth yr wythnos yma.

Yn Aberhonddu gwelodd Mrs Gillan sut yr oedd pobl leol wedi elwa ar gynlluniau tai fforddiadwy modern cyn cwrdd a phenaethiaid y fyddin ym Mhencadlys Barics Aberhonddu, lle talodd deyrnged i waith y lluoedd arfog yng Nghymru.

Yna galwodd heibio i weld y paratoadau munud olaf ar gyfer yr Ŵyl Lenyddol fyd enwog yn y Gelli Gandryll, lle disgwylir dros 100,000 o ymwelwyr a’r ardal yn ystod y 10 niwrnod, gan roi hwb gwerth miliynau o bunnoedd i’r economi leol.

Ar ol cwrdd a’r preswylwyr yn natblygiadau tai fforddiadwy Brongarth a Chwrt Conwy yn Aberhonddu, meddai Mrs Gillan: “Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud gan Gymdeithas Tai Wales and West ar ran y sector tai cymdeithasol yn Aberhonddu wedi gwneud argraff ddofn arnaf.

“Nid yn unig y mae gan y preswylwyr gartrefi modern ac ymarferol ond mae ganddynt hefyd rai o’r tai newydd mwyaf cyfeillgar i’r amgylchedd ac effeithlon o safbwynt ynni yng Nghymru. Mae’r sylw i fanylion a’r safonau uchel yr wyf wedi’u gweld heddiw’n gwneud y gwahaniaeth rhwng darparu tai a chreu cartrefi.

“Hoffwn ddiolch i Mrs Isaacs a Mrs Thomas am y croeso cynnes a gefais ganddynt wrth ymweld a’u cartrefi hardd. Mae’n ddigon hawdd gweld pam eu bod mor hapus ac yn ymfalchio gymaint yn eu cartrefi.” 

Yn dilyn ei hymweliad a Thai Wales and West, aeth Mrs Gillan ymlaen i gwrdd a phenaethiaid y Fyddin yng Nghymru ym Marics Aberhonddu. Yn dilyn trafodaethau a’r Brigadydd Russ Wardle ar effeithiau’r lluoedd arfog yng Nghymru, cyfarfu Mrs Gillan ag Uwch Swyddogion nifer o unedau Cymreig.

Meddai Mrs Gillan: “Mae ein lluoedd arfog yng Nghymru’n chwarae rhan allweddol gartref a thramor a dylem i gyd fod yn falch iawn ohonynt. Dyna pam y byddaf mor falch o fod yn bresennol yn y digwyddiad yng Nghaerdydd ar 26 Mehefin a fydd yn rhan o’r Diwrnod Lluoedd Arfog cenedlaethol.

“Bydd y Diwrnod Lluoedd Arfog yn gyfle i bawb dalu teyrnged i’r lluoedd arfog, rhai’r gorffennol yn ogystal a’r presennol, ac i ddangos eich diolchgarwch iddynt am eu hymrwymiad diflino i amddiffyn ein gwlad. Yr wyf yn annog pawb i chwarae’u rhan ac i ddangos eu cefnogaeth.”

Wrth ymweld a Gŵyl Lenyddol y Gelli, cafodd Mrs Gillan gyfle i gwrdd a sylfaenydd a chyfarwyddwr yr ŵyl Peter Florence cyn crwydro o amgylch y safle.

Meddai: “Heb amheuaeth Gŵyl y Gelli yw un o brif wyliau llenyddol y byd, sy’n denu siaradwyr o bwys rhyngwladol a dros gan mil o ymwelwyr i’r rhan brydferth hon o’r wlad.

“Hoffwn longyfarch Peter Florence a’i dim ymroddgar am ennill Gwobr Ragoriaeth y Frenhines ac am drefnu rhaglen ragorol o ddigwyddiadau i ddiddanu’r torfeydd eto eleni.”

Cyhoeddwyd ar 28 May 2010