Datganiad i'r wasg

Cheryl Gillan yn cyfarfod â’r Arglwydd Patten i drafod darlledu yng Nghymru

Bu i Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gyfarfod a’r Arglwydd Patten, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, er mwyn trafod dyfodol darlledu…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bu i Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gyfarfod a’r Arglwydd Patten, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, er mwyn trafod dyfodol darlledu yng Nghymru. 

Yn dilyn y cyfarfod yn swyddfa Ysgrifennydd Cymru yn Nhŷ Gwydyr, Llundain, dywedodd Mrs Gillan: “Gwnaethom drafod pwysigrwydd y celfyddydau creadigol a’r sector darlledu i economi Cymru, yn ogystal a’r cyfraniad trawiadol a wna’r BBC i fywyd diwylliannol yng Nghymru. 

“Mae mwy a mwy o raglenni oriau brig y BBC bellach yn cael eu gwneud yng Nghymru. Ym mis Mawrth, bu i mi ymweld a Phentref Drama’r BBC ym Mae Caerdydd, a drwy ddatblygu’r Pentref hwn, bydd allbwn a phresenoldeb y BBC yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth.

“Mae’r Arglwydd Patten a minnau yn croesawu llwyddiant anhygoel rhaglenni rhwydwaith, sydd wedi rhoi enw da i BBC Cymru Wales am ragoriaeth, ac sydd wedi ei roi mewn sefyllfa ddelfrydol i elwa ar drosglwyddo proses gynhyrchu mwy o raglenni drama a rhaglenni ffeithiol allan o Lundain.

“Rydym ni hefyd yn sylweddoli bod pwysigrwydd cynnal presenoldeb cryf y BBC yng Nghymru yn ffactor pwysig y mae’n rhaid ei ystyried, er y byddai’n rhaid i’r BBC - yn yr un modd a nifer o sefydliadau eraill - wneud penderfyniadau anodd oherwydd prinder cyllid cyhoeddus.” 

Ychwanegodd Mrs Gillan: “Fe wnaeth yr Arglwydd Patten a minnau drafod S4C hefyd, gan gydnabod ei statws unigryw a phwysigrwydd darlledu yn yr iaith Gymraeg.  Cytunwyd hefyd bod angen caniatau digon o amser i S4C a’r BBC gytuno ar drefniadau llywodraethu sy’n adlewyrchu’r egwyddorion hyn.

“Rydw i wedi gofyn i’r Arglwydd Patten roi’r holl wybodaeth ddiweddaraf i mi ynghylch trafodaethau parhaus yn ymwneud a BBC Cymru ac S4C, ac fe bwysleisiais fy ymrwymiad i sicrhau sector darlledu bywiog yng Nghymru, sy’n darlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg.”

Cyhoeddwyd ar 29 June 2011