Stori newyddion

Cheryl Gillan yn cynnal ei chyfarfodydd cyntaf fel Ysgrifennydd Gwladol yng Nghaerdydd

Cynhaliodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan ei chyfarfod cyntaf gyda Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones ym Mae Caerdydd heddiw. Yn dilyn…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cynhaliodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan ei chyfarfod cyntaf gyda Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones ym Mae Caerdydd heddiw.

Yn dilyn hynny, cyfarfu Mrs Gillan ag Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Nick Bourne ac arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Kirsty Williams i drafod effaith y Llywodraeth glymblaid newydd ar Gymru.

Siaradodd hefyd a Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a Dafydd Elis Thomas, Llywydd y Cynulliad a oedd ill dau yng Ngogledd Cymru.

Yn dilyn y cyfarfod a Phrif Weinidog Cymru, dywedodd Mrs Gillan: “O fewn llai na 48 awr ar ol fy mhenodi a 24 awr ers imi dderbyn y Sel Frenhinol i weithredu fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, roeddwn wrth fy modd mai cyfarfod yng Nghymru gyda Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones fyddai fy nghyfarfod swyddogol cyntaf.

“Cafwyd cyfarfod calonogol ac effeithiol a chytunwyd i gynnal cyfarfodydd dwyochrog yn fisol, yn ogystal a chyfarfodydd eraill yn ol yr angen.

“Dywedais hefyd fy mod am symud ymlaen gyda’r refferendwm ond roedd yn syndod i mi nad oedd fy rhagflaenydd wedi gwneud dim gwaith o ran symud ymlaen ar y cwestiwn hwn. Byddaf i a fy swyddogion yn awr yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i fwrw ymlaen a hyn.  

“Pwysleisiais mai fy mwriad yw i’r ddau sefydliad gydweithio er budd pobl Cymru.”

Cyhoeddwyd ar 14 May 2010