Datganiad i'r wasg

Cheryl Gillan yn siaradwraig wadd mewn symposiwm allforio gan UKTI

Heddiw, cyfarfu Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan a rhai o gwmniau bach a chanolig Cymru i drafod cyfleoedd twf ar gael iddynt ar draws y diwydiant…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, cyfarfu Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan a rhai o gwmniau bach a chanolig Cymru i drafod cyfleoedd twf ar gael iddynt ar draws y diwydiant amddiffyn a diogelwch.

Trefnwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Athrofa Prifysgol Cymru, gan UKTI i roi cyfle i gwmniau bach a chanolig Cymru gael gwybod pa gymorth sydd ar gael iddynt gan Lywodraeth y DU yn y marchnadoedd allforio.

Meddai Mrs Gillan “Mae fy neges i fusnesau bach a chanolig Cymru heddiw yn glir; ni ddylai marchnadoedd tramor fod allan o’u cyrraedd yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU yma i helpu cwmniau llai i lwyddo”.

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru “Rwyf wrth fy modd y cefais fy ngwahodd gan UKTI i’r digwyddiad pwysig hwn. Mae strategaeth UKTI yn nodi sut fyddwn yn gweithio gyda chwmniau bach a chanolig Cymru i adnabod a goresgyn unrhyw rwystrau i fasnachu. Rwyf hefyd yn gweithio gyda Llysgenhadon a Llysgenadaethau i sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli’n llawn gan Lywodraeth y DU mewn ymdrechion i hybu masnach dramor”

Wrth gloi meddai Mrs Gillan “Mae’r diwydiant amddiffyn a diogelwch yn parhau i fod yn hanfodol i economi Cymru. Mae gan gwmniau bach a chanolig yng Nghymru rol hollbwysig i’w chwarae mewn hybu twf y sector preifat. Mae fy nrws yn Swyddfa Cymru i’w helpu i gyflawni hyn bob amser ar agor”.

Talodd Ysgrifennydd Cymru, a oedd yn siaradwraig wadd yn y symposiwm, deyrnged hefyd i rol hanesyddol bwysig y diwydiant amddiffyn yng Nghymru tra’n cydnabod hanes y ffatri Airbus yn Broughton a meysydd awyr yr RAF yn Sain Tathan a’r Fali.

Nodiadau i’r golygyddion:

  1. Masnach a Buddsoddi’r DU (UKTI) yw’r adran o’r llywodraeth sy’n helpu cwmniau a leolir yn y DU i lwyddo yn yr economi fyd-eang. Mae UKTI yn helpu cwmniau tramor i ddod a’u buddsoddiadau ansawdd uchel i economi’r DU gan gynnig arbenigedd a chysylltiadau drwy ei rwydwaith o arbenigwyr yn y DU, ac yn llys-genadaethau Prydain a swyddfeydd diplomyddol eraill ledled y byd. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.uktradeinvest.gov.uk
Cyhoeddwyd ar 17 October 2011